Beiciwr mynydd proffesiynol Seisnig oedd Jason McRoy (26 Tachwedd 197124 Awst 1995). Ganwyd yn Ysbyty Luton, Swydd Bedford. McRoy oedd y beiciwr mynydd Prydeinig cyntaf erioed i ymuno â dîm proffesiynol Americanaidd, bu hefyd yn Bencampwr Cenedlaethol Beicio Mynydd Lawr Allt Prydain.

Jason McRoy
Ganwyd26 Tachwedd 1971 Edit this on Wikidata
Luton Edit this on Wikidata
Bu farw24 Awst 1995 Edit this on Wikidata
o damwain cerbyd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Ganwyd Jason McRoy â twll yn ei galon, roedd ei blentyndod yn llawn damweiniau ac iechyd gwael ond llwyddodd mewn chwaraeon yn bennaf oherwydd ei benderfynoldeb. Cystadlodd mewn rasus BMX yn ei arddegau. Cystadlodd yn ei ras beicio mynydd cyntaf yn 17 oed, yn 1988, gan ddarfod yn y drydedd safle wrth gystadlu yn erbyn dynion hyn, er ei fod yn swyddogol dal yn y categori Iau. Dewiswyd Jason i gynyrchioli ei wlad ym Mhencampwriaethau'r byd yn 1991. Yn 1992, cafodd ei noddi fel aelod o dîm MBUK.

Trodd yn broffesiynol yn 1994, gan reidio dros dîm Specialized USA, roedd ei lwyddianau'n gyfyngedig y flwyddyn honno oherwydd amryw o anafiadau a lwc ddrwg gyda'i feic yn torri sawl gwaith. Er hyn, llwyddodd i ennill Bencampwr Cenedlaethol Beicio Mynydd Lawr Allt Prydain am yr ail flwyddyn yn ganlynol.

Yn 1995 trodd ei law at rasio ar y trac, roedd ei berfformiadau'n syfrdanol a dechreuodd hyfforddwr Prydain, Doug Daley, gymryd diddordeb ynddo, roedd yn debygol iawn y buasai'n cystadlu ar y trac yng Ngemau Olympaidd Atlanta 1996.

Bu farw Jason mewn damwain gyda lori tra'n reidio ei feic Harley Davison ar yr A628 (Woodhead Pass) rhwng Manceinion a Sheffield, Lloegr, ar 24 Awst 1995.

Dolenni Allanol

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.