Jaws

ffilm ddrama llawn cyffro gan Steven Spielberg a gyhoeddwyd yn 1975

Mae Jaws (1975) yn ffilm cyffro a gyfarwyddwyd gan Steven Spielberg ac sy'n seiliedig ar nofel boblogaidd Peter Benchley a ysbrydolwyd gan yr ymosodiadau gan forgi ar Lannau Jersey ym 1916. Mae un o swyddogion yr heddlu yn nhref glan môr dychmygol, Ynys Amity yn ceisio amddiffyn y bobl ar y traeth o forgi mawr gwyn sy'n nofio'n agos i'r lan. Caiff ei awdurdod ei danseilio gan gyngor y dref sydd eisiau i'r traeth i barhau ar agor er mwyn elwa o arian y twristiaid dros fisoedd yr haf. Ar ôl nifer o ymosodiadau, gofynna'r heddlu am gymorth wrth fiolegwr morol a heliwr morgwn porffesiynol. Mae Roy Scheider yn chwarae rhan swyddog yr heddlu, Richard Dreyfuss fel y biolegwr morol Matt Hooper, Robert Shaw fel yr heluwr morgwn Quint, Lorraine Gary fel gwraig Brody, Ellen, a Murray Hamilton fel y Maer Vaughn.

Jaws

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Steven Spielberg
Cynhyrchydd David Brown
Richard D. Zanuck
Ysgrifennwr Stori
Peter Benchley
Sgript
Peter Benchley
Carl Gottlieb
Howard Sackler
Serennu Roy Scheider
Robert Shaw
Richard Dreyfuss
Lorraine Gary
Murray Hamilton
Cerddoriaeth John Williams
Sinematograffeg Bill Butler
Golygydd Verna Fields
Dylunio
Dosbarthydd Universal Studios
Dyddiad rhyddhau 20 Mehefin 1975
Amser rhedeg 124 munud
Gwlad UDA
Iaith Saesneg
Cyllideb $7,000,000
Refeniw gros $470,653,000 (byd eang)
Olynydd Jaws 2
(Saesneg) Proffil IMDb

Ystyrir fod Jaws wedi torri tir newydd ym myd y ffilmiau mawrion. Dyma oedd y ffilm hafaidd fawr gyntaf. Yn sgîl llwyddiant y ffilm, penderfynodd cyfarwyddwyr y stiwdios y dylent ryddhau'r ffilm ar raddfa llawer ehangach nag a wnaethpwyd yn flaenorol. Arweiniodd hyn at ffilmiau fel The Omen (1976) ac yna Star Wars (1977) yn cael eu rhyddhau yn ystod yr Haf, gan ddechrau ar draddodiad o ryddhau ffilmiau anturus a chyffrous yn ystod misoedd yr Haf. Rhyddhawyd tair ffilm fel dilyniant i'r Jaws gwreiddiol (Jaws 2 (1978), Jaws 3-D (1983) a Jaws: The Revenge (1987)) ond ni weithiodd Spielberg na Benchley ar yr un ohonynt. Yn 2006, rhyddhawyd gêm fideo o'r enw Jaws Unleashed.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm gyffro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Jaws
yn Wiciadur.