Steven Spielberg
Cyfarwyddwr ffilm o'r Unol Daleithiau yw Steven Allen Spielberg KBE (ganwyd 18 Rhagfyr 1946). Yn 2006, rhestrodd cylchgrawn Premiere ef fel y person mwyaf pŵerus a dylanwadol ym myd ffilmiau. Rhestrodd cylchgrawn Time ef fel un o'r 100 o Bobl Mwyaf y Ganrif. Ar ddiwedd yr 20g, cafodd ei enwi gan gylchgrawn Time fel un o gymeriadau mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Mewn gyrfa sydd wedi ymestyn dros bedwar degawd, mae ffilmiau Spielberg wedi ymdrin â nifer o themâu gwahanol. Gwelwyd ffilmiau cynharaf Spielberg, sef ffilmiau gwyddonias ac antur (yn aml yn canolbwyntio ar blant), fel y ddelfryd o ffilmiau mawrion Hollywood. Yn y blynyddoedd mwy diweddar, dechreuodd ei ffilmiau ymdrin â themâu fel yr holocost, caethwasiaeth, rhyfel a therfysgaeth.
Steven Spielberg | |
---|---|
Ganwyd | Steven Allan Spielberg 18 Rhagfyr 1946 Cincinnati |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, actor, casglwr celf, person busnes, awdur ffuglen wyddonol, actor ffilm, cynhyrchydd gweithredol, golygydd ffilm, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, llenor, entrepreneur, sgriptiwr ffilm |
Swydd | Llywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes |
Arddull | ffilm gyffro, ffilm ddrama, ffilm wyddonias, ffilm arswyd, ffilm llawn cyffro, ffilm antur, psychological horror film, ffilm ryfel, ffilm drosedd, Ffilm gyffro seicolegol, ffilm ffantasi, ffilm gomedi, natural horror film, ffilm arswyd wyddonias, ffilm am ddirgelwch |
Taldra | 170 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Arnold Spielberg |
Priod | Amy Irving, Kate Capshaw |
Plant | Sasha Spielberg, Jessica Capshaw, Max Spielberg, Sawyer Spielberg, Theo Spielberg, Destry Allyn Spielberg |
Gwobr/au | KBE, Cadlywydd Urdd y Coron, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Emmy 'Daytime', Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Medal y Dyniaethau Cenedlaethol, Philadelphia Liberty Medal, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, New York Film Critics Circle Award for Best Animated Film, Gwobr BAFTA am y Ffilm Orau, Anrhydedd y Kennedy Center, New York Film Critics Circle Award for Best Film, National Society of Film Critics Award for Best Director, National Society of Film Critics Award for Best Director, Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, Boston Society of Film Critics Award for Best Director, Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau, Critics' Choice Movie Award for Best Director, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, London Film Critics Circle Award for Director of the Year, London Film Critics Circle Award for Film of the Year, Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau, New York Film Critics Circle Award for Best Film, Gwobr Emmy Daytime am Rhaglen Blant Animeddiedig Eithriadol, London Film Critics Circle Award for Film of the Year, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Gwobr Inkpot, Officier de la Légion d'honneur, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Gwobr Heddwch y Cenhedloedd Unedig, Irving G. Thalberg Memorial Award, Golden Globes, Gwobr i'r Sgript Gorau (Gŵyl Ffilm Cannes), Gwobr César, Y César Anrhydeddus, Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau, Urdd y Wên, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, Gwobr BAFTA am Gyfarwyddo Gorau, Eagle Scout, Gwobr Eryr y Sgowtiaid Nodedig, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Director, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Director, Jupiter Awards |
Gwefan | https://amblin.com/steven-spielberg/ |
llofnod | |
Enillodd Spielberg Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau am Schindler's List (1993) a Saving Private Ryan (1998). Torrodd tair o ffilmiau Spielberg y record mewn sinemau am faint o arian a wnaethant, sef Jaws (1975), E.T. the Extra-Terrestrial (1982), a Jurassic Park (1993).
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Spielberg yn Cincinnati, Ohio, i deulu Iddewig. Perchennog bwyty a phianydd oedd ei fam, Leah Adler, tra bod ei dad Arnold Spielberg yn beirianydd trydanol a weithiai yn datblygu cyfrifiaduron.[1] Treuliodd ei blentyndod yn Haddon Heights, New Jersey a Scottsdale, Arizona, un o faesdrefi mawr Phoenix. Trwy gydol ei arddegau, creodd Spielberg ffilmiau 8mm amatur gyda'i ffrindiau. Ffilmiwyd y cyntaf o'r ffilmiau hyn ym mwyty Pinnacle Peak Patio yn Scottsdale. Cododd dâl o 25 cent i weld ei ffilmiau tra byddai ei chwaer yn gwerthu popcorn.
Ym 1958, daeth Spielberg yn scowt a derbyniodd fathodyn anrhydedd am greu ffilm 8mm naw munud o hyd o'r enw The Last Gunfight.[2] Mewn cyfweliad ag ef flynyddoedd yn hwyrach, cofiodd Spielberg yn ôl at y cyfnod a dywedodd, "My dad's still-camera was broken, so I asked the scoutmaster if I could tell a story with my father's movie camera. He said yes, and I got an idea to do a Western. I made it and got my merit badge. That was how it all started."[3] Pan yn 13 oed, enillodd Spielberg wobr am ffilm ryfel 40 munud o hyd o'r enw Escape to Nowhere. Ym 1963, pan oedd yn 16, ysgrifennodd a chyfarwyddodd Spielberg ei ffilm annibynnol gyntaf, ffilm antur gwyddonias 140-munud o'r enw Firelight (a oedd wedi ysbrydoli Close Encounters yn ddiweddarach). Dangoswyd y ffilm, a wnaed ar gyllideb o UDA$500, yn ei sinema leol a gwnaeth elw o $1.00.[4] Gwnaeth nifer o ffilmiau o'r Ail Ryfel Byd hefyd yn seiliedig ar hanesion rhyfel ei dad.
Ffilmiau
golyguCyfarwyddwr
- The Sugarland Express (1974)
- Jaws (1975)
- Close Encounters of the Third Kind (1977)
- 1941 (1979)
- Raiders of the Lost Ark (1981)
- E.T. the Extra-Terrestrial (1982)
- Indiana Jones and the Temple of Doom (1984)
- The Color Purple (1985)
- Empire of the Sun (1987)
- Indianna Jones and the Last Crusade (1989)
- Hook (1991)
- Jurassic Park (1993)
- Schindler's List (1993)
- The Lost World: Jurassic Park (1997)
- Men in Black (1997
- Amistad (1997)
- Saving Private Ryan (1998)
- Artificial Intelligence: AI (2001)
- Minority Report (2002)
- Catch Me If You Can (2002)
- The Terminal (2004)
- War of the Worlds (2005)
- Munich (2005)
- Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
- Lincoln (2011)
- The Adventures of Tintin: Secret of the Unicorn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Steven Spielberg Biography (1946?–). filmreference.com.
- ↑ Steven Spielberg Sighted in Arizona.
- ↑ Nickelodeon Magazine Interviews Steven Spielberg.
- ↑ Inside the Actor's Studio, cyfweliad James Lipton â Steven Spielberg.