Jean-Pierre Rives
Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb yw Jean-Pierre Rives (ganed 31 Rhagfyr 1952 yn Toulouse), a enillodd 59 o gapiau dros Ffrainc fel blaenasgellwr.
Jean-Pierre Rives | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 31 Rhagfyr 1952 ![]() Toulouse ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | actor, cerflunydd, chwaraewr rygbi'r undeb ![]() |
Taldra | 180 centimetr ![]() |
Pwysau | 85 cilogram ![]() |
Mudiad | Mynegiadaeth Haniaethol ![]() |
Gwobr/au | Officier de l'ordre national du Mérite ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Football club TOAC TOEC rugby, Q3495932, Stade Toulousain, Racing 92, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc ![]() |
Safle | blaenasgellwr ![]() |
Chwaraeodd Rives rygbi i glybiau TOEC, Beaumont a Stade Toulousain, yna yn 1981 gadawodd Toulouse i ymuno â Racing Club de France.
Chwaraeodd dros Ffrainc ar bob lefel: ysgolion, ieunctid, prifysgolion a lefel B cyn cyrraedd y tîm cenedlaethol llawn. Bu'n gapten Ffrainc mewn 34 gêm, record y byd ar y pryd, a chwaraeodd yn y tîm a gyflawnodd Y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1977 a 1981. Rives oedd y capten pan gurodd Ffrainc y Crysau Duon yn Seland Newydd am y tro cyntaf erioed. Etholwyd yn Chwaraewr y Flwyddyn yn Ffrainc yn 1977, 1979 a 1981.
Roedd yn ddylanwadol pan wnaeth Ffrainc gais llwyddiannus am fod yn lleoliad Cwpan y Byd yn 2007.