Toulouse
Dinas yn Ocsitania yw Toulouse (Ocitaneg: Tolosa /tuˈluzɔ/), yn département Haute-Garonne a région Occitanie. Tolosa yw prifddinas y région honno, a hi hefyd oedd prifddinas région Midi-Pyrénées a ddiddymwyd yn 2016. Yn 2007, roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 443,103 a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 1,117,000, gan wneud Toulouse y bedwaredd dinas yn Ffrainc o ran poblogaeth, ar ôl Paris, Marseille a Lyon. Mae'r boblogaeth yn tyfu'n gynt nag unrhyw ddinas fawr arall yn Ewrop. Saif y ddinas ar Afon Garonne.
Math | cymuned, dinas fawr, tref goleg |
---|---|
Poblogaeth | 504,078 |
Pennaeth llywodraeth | Jean-Luc Moudenc |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ocsitania |
Sir | Haute-Garonne |
Gwlad | Ocsitania , Ffrainc |
Arwynebedd | 118.3 km² |
Uwch y môr | 141 metr, 115 metr, 263 metr |
Gerllaw | Afon Garonne |
Yn ffinio gyda | Fenouillet, Aucamville, Balma, Blagnac, Colomiers, Cugnaux, Labège, Launaguet, Pechbusque, Portet-sur-Garonne, Quint-Fonsegrives, Ramonville-Saint-Agne, Saint-Orens-de-Gameville, Tournefeuille, L'Union, Vieille-Toulouse |
Cyfesurynnau | 43.6044°N 1.4439°E |
Cod post | 31000, 31100, 31200, 31300, 31400, 31500 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Toulouse |
Pennaeth y Llywodraeth | Jean-Luc Moudenc |
Yn Nhoulouse mae prif ganolfan cwmni Airbus, ac mae llawer o ddiwydiannau technolegol eraill wedi datblygu yma. Ym maes chwaraeon, Rygbi'r Undeb sydd fwyaf poblogaidd yn yr ardal, ac mae tîm rygbi Toulouse, Stade Toulousain, ymhlith y cryfaf yn Ewrop. Ymhlith pobl enwog o Toulouse mae rhai o chwaraewyr rygbi amlycaf Ffrainc, megis Jean-Pierre Rives, David Skrela, Fabien Pelous a Frédéric Michalak.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Basilica Saint-Sernin
- Eglwys gadeiriol Saint-Étienne
- Hotel du Grand Balcon
- Prifysgol Toulouse
Addysg
golyguTrafnidiaeth
golyguMetro
golyguMae dau lein Metro yn y ddinas (A a B). Mae trydydd lein, Toulouse Aerospace Express, yn yr arfaeth. Lansiwyd y Metro ym 1993, ac mae'n defnyddio technoleg VAL.
Enwau a llysenwau
golyguMae'r enw Tolosa yn ymddangos mewn hen ysgrifau o'r 2il ganrif CC ymlaen (Τώλοσσα yn Groeg gan Poseidonius a Strabo, Tolosa yn Lladin gan Cicero, Cesar a Plinius yr Hynaf )[1]. Cysylltir yr enw gyda'r Tectosagiaid, pobl geltaidd[2].
Mae union darddiad yr enw Tolosa / Toulouse yn anhysbys hyd heddiw. Mae'n anodd cyfiawnhau tarddiad celtaidd, ac mae rhai ieithyddwyr yn ystyried ei fod yn dod o'r Ibereg, iaith hynafol nas gwyddir llawer amdani[3]. Mae llefydd eraill o'r enw "Tolosa" ar Benrhyn Iberia, ond hefyd yn Ne-Ddwyrain Ffrainc (Jura ac Ardèche).
Gelwid y bobl oedd yn byw yn y ddinas ac o'i chwmpas yn Tolosates, ond nid yw'n sicr ai Celtiaid Tecsosagiaid oeddynt, a oedd wedi mudo yn yno yn y 4edd ganrif CC, neu'n gymysg â phoblogaethau cynhenid, neu yn Geltiberiaid.
Mae rhai ymchwilwyr yn credu bod Tolosa, « cité de Minerve » (Palladia Tolosa) gynt yn cyfeirio at y Tholos a geir mewn pensaernïaeth Groeg yr Henfyd, ac yn cysylltu hynny â chwedlau aur a gipwyd o Delphi i Tolosa.
Yn ôl hanesyn oedd yn boblogaidd adeg y Dadeni Dysg, sefydlwyd y ddinas gan Tholus, ŵyr Jaffeth ail fab Noa.
Tolosa oedd enw Lladin y ddinas, a dyna yw'r enw Ocsitaneg hyd heddiw, megis yn yr arwyddair Per Tolosa totjorn mai. Daeth hynny yn Tholose ac yna yn Toulouse erbyn diwedd yr 17eg ganrif yn Ffrangeg, o ddan dylanwad yr ynganiad Ocsitaneg [tuˈluzɔ].
Gelwir y ddinas y ville rose oherwydd lliw y brics traddodiadol. Llysenw arall ar y ddinas yw Ciutat Mondina neu la cité Mondine yn Ffrangeg, gan gyfeirio at yr Ieirll oedd yn arfer rheoli'r ardal, oedd yn aml yn dwyn yr enw Raymond.
Iaith
golyguTolosa yw ail ddinas Ocsitania, yr ardal ble siaredir Ocsitaneg yn draddodiadol. Mae hi ar y ffin rhwng y tafodieithoedd Languedoceg a Gwasgwyneg. Ganwyd nifer o feirdd a llenorion Ocsitaneg megis Pierre Goudouli yn y ddinas. Ym 1323, crëwyd Acadèmia dels Jòcs Florals, y gystadleuaeth farddoniaeth hynaf sy'n dal i gael ei chynnal; gwobrwyir yr awdur Ocsitaneg gorau pob blwyddyn gyda blodyn fioled wedi ei orchuddio ag aur pur.
Gwaharddwyd yr iaith o fyd addysg gan yr awdurdodau Ffrengig ers talwm. Dywedir i'r Ocsitaneg beidio â bod yn iaith bob dydd ar strydoedd y ddinas o'r 1920au ymlaen, ac eithrio rhai ardaloedd fel Lalande a Saint-Cyprien ble'r oedd i'w chlywed hyd at y 1960au.
Mae olion dylanwad yr Ocsitaneg i'w clywed yn y Ffrangeg a siaredir yn Tolosa, er yn llai felly nag yn y gorffennol, o ran gramadeg, geirfa ac acen.[4]
Yn 2006, lansiwyd Ostal d'Occitània, canolfan Ocsitaneg Tolosa, ar rue Malcousinat. Mae dros hanner cant o gymdeithasau, bob un yn ymwneud â'r Ocsitaneg mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn ei defnyddio[5][6]. Ers mis Hydref 2009, mae cyfieithiadau Ocsitaneg ar orsafoedd y Metro.
Pobl o Doulouse
golygu- Pierre de Fermat (1607-1665), mathemategydd
- Antoine de Saint-Exupéry (1900-1944), awdur
- Jean-Pierre Rives (g. 1952), chwaraewr rygbi
Gefeilldrefi
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Le Nom de Toulouse de Pierre Moret, 1996, université Toulouse Le Mirail - Toulouse II t.11
- ↑ Histoire de Toulouse, 1974, Éditions Privat, ISBN 978-2-7089-4709-2, t.11
- ↑ Albert Dauzat et Charles Rostaing, Dictionnaire étymologique des noms de lieux en France, Nodyn:2e Librairie Guénégaud 1978.
- ↑ Vocabulaire toulousain de survie
- ↑ "Convergéncia Occitana". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-06. Cyrchwyd 2022-06-27.
- ↑ L’Ostal d’Occitània ouvre ses portes Archifwyd 2021-03-23 yn y Peiriant Wayback Gwefan mairie de Toulouse, 17/01/2008