Jean Bodel
Bardd a dramodydd yn yr iaith Hen Ffrangeg oedd Jean Bodel neu Jehan Bodel (tua 1167 – 1210) sy'n nodedig fel jongleur, trouvère, ac awdur fabliaux.
Jean Bodel | |
---|---|
Ganwyd | c. 1165 Arras |
Bu farw | c. 1210 Beaurain |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | bardd, llenor, Trwbadŵr |
Adnabyddus am | Le Jeu de saint Nicolas, Les congés, Chanson des Saisnes, De Haimet et de Barat, De covoteus et de l'envieus, Le vilain de Bailluel, Le vilain de Farbu, Brunain la vache au prêtre, Des deus chevaus, Li sohaiz desvez, Pastourelles |
Arddull | chanson de geste, theatr, barddoniaeth |
Roedd yn hanu o Arras, yn rhanbarth Artois, a oedd yn rhan o Swydd Fflandrys hyd at 1180. Mae'n debyg iddo weithio mewn swydd gyhoeddus yn Arras, ac yn sicr roedd yn aelod o puy, y frawdoliaeth lenyddol leol. Roedd bwriad ganddo ymuno â'r Bedwaredd Groesgad (1202–04), ond cafodd ei wahanglwyfo a bu farw mewn clafrdy yn Arras.[1]
Bodel yw awdur Le Jeu de Saint Nicolas (tua 1200), y ddrama firagl hynaf yn yr iaith Ffrangeg. Ysgrifennodd hefyd bum pastourelle ( 1190–94, 1199), naw fabliau (1190–97), y chanson de geste La Chanson des Saisnes (cyn 1200), a'r delyneg Les Congés (1202).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Jehan Bodel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2019.