Arras
Tref a chymuned yng ngogledd Ffrainc sy'n brifddinas weinyddol département Pas-de-Calais yw Arras (Iseldireg: Atrecht). Sonir am Aras yng ngwaith Guto'r Glyn[1]. Er ei bod yn ganolfan hanesyddol hen ranbarth Artois, siaredir tafodiaith Picard yno. Yn wahanol i'r rheol gyffredin yn Ffrangeg, yngenir yr "s" derfynol.
Math | cymuned, tref/dinas |
---|---|
Poblogaeth | 42,600 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pas-de-Calais, arrondissement of Arras, Communauté urbaine d'Arras |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 11.63 km² |
Uwch y môr | 72 metr, 52 metr, 99 metr |
Yn ffinio gyda | Saint-Laurent-Blangy, Achicourt, Sainte-Catherine, Saint-Nicolas, Tilloy-lès-Mofflaines, Anzin-Saint-Aubin, Beaurains, Dainville, Duisans |
Cyfesurynnau | 50.2892°N 2.78°E |
Cod post | 62000 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Arras |
Sefydlwyd Arras gan llwyth Celtaidd yr Atrebates ac yn nes ymlaen daeth yn dref garsiwn Rufeinig dan yr enw Atrebatum. Fe'i lleolir yn Artois, a fu yn dalaith o'r Iseldiroedd am gyfnod. Am ganrifoedd ymladdai Ffrainc a'r Iseldiroedd dros ei meddiant a newidiodd ddwylo sawl gwaith cyn dod yn rhan o Ffrainc ar ddiwedd yr 17g. Roedd Arras yn dwyn cysylltiad â masnach Fflandrys a daeth yn enwog erbyn diwedd yr Oesoedd Canol am ei brodwaith gwlân arbennig a allforid ledled Ewrop. Defnyddir y term arras o hyd am frodweithiau o safon uchel.
Arwyddwyd cytundeb Undeb Atrecht (Undeb Arras) yma yn Ionawr 1579. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Arras yn gorwedd yn agos i'r ffrynt ac ymladdwyd Brwydr Arras yno ac yn y cyffiniau. Dioddefodd ddifrod sylweddol mewn canlyniad. Yn yr Ail Ryfel Byd yn ystod Goresgyniad Ffrainc (Mai 1940), ymladdwyd frwydr fawr arall yno.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan gutorglyn.net Archifwyd 2017-10-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 22 Mawrth 2018.