Jeffrey Lewis (cerddor Americanaidd)

Cerddor Americanaidd Gwrth-werin a chartwnydd llyfrau comig ydy Jeffrey Lewis (ganwyd 20 Tachwedd 1975, Efrog Newydd). Mynychodd State University of New York at Purchase a graddiodd yn 1997. Pwnc ei draethawd terfynol oedd nofel graffeg Alan Moore, "Watchmen". Mae Lewis wedi cydnabod nifer o'i ddylanwadau cerddorol yn ei gerddoriaeth megis "Williamsburg Will Oldham Horror", "The History of The Fall" a "The Chelsea Hotel Oral Sex Song" sy'n cyfeirio at gân gan Leonard Cohen. Mae telynegion Lewis yn gymleth a llythrennog, yn aml gyda neges nihilyddol byd-eang, neges optimistaidd â ffraethineb miniog. Magwyd ef ar ochr de ddwyddreiniol Ynys Manhattan, mae ei ganeuon hefyd wedi eu cyfarwyddo gan amgylchiadau ei gartref, enwir nifer o lefydd megis Williamsburg, FDR Drive ac East River yn ei ganeuon.

Jeffrey Lewis
Ganwyd20 Tachwedd 1975 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Label recordioRough Trade Records, Don Giovanni Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • State University of New York at Purchase Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddor, canwr, canwr-gyfansoddwr, arlunydd comics Edit this on Wikidata
Arddullanti-folk Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.thejeffreylewissite.com/ Edit this on Wikidata

Ar ôl iddo gael ei arwyddo gan label recordio Prydeinig, Rough Trade, yn 2001, rhyddhaodd Jeffrey Lewis ei albwm cyntaf swyddogol The Last Time I Did Acid I Went Insane ac yn 2003, rhyddhaodd ei ail albwm, It's The Ones Who've Cracked That The Light Shines Through. Rhyddhaodd ei drydydd, City and Eastern Songs, yng ngwledydd Prydain yn Tachwedd 2005 ac yn yr Unol Daleithiau ym Medi 2006. Mae ei frawd, Jack Lewis yn ymddangos ar bob albwm hefyd, ysgrifennodd a chanodd ef nifer o'r caneuon. Yn Hydref 2007, rhyddhaodd Jeffrey 12 Crass Songs, albwm sy'n cynnwys bron yn gyfangwbl, caneuon gan y grŵp pync anarchwyr-heddychlon Prydeinig, Crass, sydd wedi eu ail-gweithio i siwtio steil gwrth-werin Jeffrey Lewis.

Mae hefyd wedi gweithio gyda Kimya Dawson o The Moldy Peaches a Diane Cluck. Mae rhai o'i gomigau a ddarlunwyd â llaw, yn ymddangos fel arlunwaith yn llewys ei grynoddisgiau.

Mae gan Jeffrey gyfres llyfrau comig ei hun, sef 'Fuff' ('Guff' gynt) sydd ar gael gan Olive Juice Music.

Yn 2006, cefnogodd Jeffrey Lewis Adam Green ar daith a dechreuodd daith ei hyn oamgylch Prydain, yn 2007 chwaraeodd nifer o gigiau yn cefnogi Daniel Johnston. Mae wedi chwarae Clwb Ifor Bach sawl gwaith, yn ddiweddar ar 15 Hydref 2007.

Disgograffi golygu

  • When Madman Was Good - Version One (1997)
  • When Madman Was Good - Version Two (1998)
  • Indie-Rock Fortune Cookie (1998)
  • Journey to the Center of the Earth (1999)
  • The Only Time I Feel Right Is When I'm Drawing Comic Books (2000)
  • I Am, Of Course, Glad (2000)
  • Kimya Dawson And Jeff Lewis (2001)
  • Songs From Austin (2001)
  • The Chelsea Hotel Oral Sex Song (2001)
  • Diane Cluck And Jeffrey Lewis (2001)
  • The Last Time I Did Acid I Went Insane (2001)
  • Guitar Situations: Musical Conduct (2002)
  • Back When I Was Four (2002)
  • Graveyard/Spirit of Love (2002)
  • AntiFolk Collaborations Volume 1 (2002)
  • No LSD Tonight/Don't Let The Record Label Take You Out To Lunch (2003)
  • It's The Ones Who've Cracked That The Light Shines Through (2003)
  • Jeffrey Lewis "Four Seasons" Box Set (2004)
  • City and Eastern Songs (2005)
  • Tapes From The Crypt (2006)
  • 12 Crass Songs (2007)

Dolenni Allanol golygu