Jenkin Jones
capten ym myddin y Senedd a phregethwr Piwritanaidd, Annibynnwr
Roedd Jenkin Jones (ganwyd 1623) yn gapten ym myddin y Pengryniaid yn Rhyfel Cartref Lloegr ac yn bregethwr piwritanaidd.[1] Fe'i ganwyd yn Tymawr, Llanddeti, Sir Frycheiniog. Graddiodd o Coleg yr Iesu, Rhydychen yn 1639. Cafodd ei apwyntio i fod yn 'brofwr' o dan Fesur Lledaenu'r Efengyl yng Nghymru 1649.
Jenkin Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1639 Llanddeti |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pregethwr, milwr |
Tad | John Jones |
Yn 1660 adroddir fod Jenkin Jones yn gofalu am Eglwys Plwyf Gatwg.
Yn dilyn dychweliad Siarl II i'r orsedd dechreuwyd erlid yr Anghydffurwyr drachefn. Carcharwyd Jenkin Jones yng Nghaerfyrddin, a dygwyd ei eiddo. Sut bynnag yr ydym yn gwybod iddo gael trwydded i bregethu yng Nghilgerran, Sir Benfro. Ni wyddom amgylchiadau ei farwolaeth.