Cilgerran
Tref fechan a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Cilgerran.[1][2] Saif ar lethrau deheuol Dyffryn Teifi yng ngogledd y sir, gyferbyn â Llechryd ac yn agos at Aberteifi. Mae ffyrdd yn ei gysylltu ag Aberteifi a Llechryd i'r gogledd ac Abercuch a Chastell Newydd Emlyn i'r dwyrain.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,507, 1,561 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,617.05 ha |
Cyfesurynnau | 52.0532°N 4.634°W |
Cod SYG | W04000937 |
Cod OS | SN195427 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae Cilgerran yn un o wardiau etholaethol Sir Benfro gyda'i chyngor etholedig ei hun.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Hanes
golyguMae'r cyfeiriad cynharaf at y dref yn dyddio i 1204 fel maenor yr arglwyddiaeth leol ; parhaodd yn faenor hyd yr 16g. Er ei bod yn fychan roedd yn cael ei hystyried yn uno brif trefi marchnad Sir Benfro yn yr 17g, ac fe ddaeth yn fwrdeistref farchnad. Mae'r hynafiaethydd George Owen, yn 1603, yn ei disgrifio fel un o bum bwrdeistref ym Mhenfro gyda portreeve.
Ym mynwent eglwys Llawddog Sant ceir maen hir gydag arysgrifiadau Ogam arno. Hefyd yn y fynwent mae bedd yr anturiaethwr William Logan, a gysylltir â Mynydd Logan, Canada.
Bu Cilgerran yn enwog ar un adeg am safon y llechi a gloddiwyd yn yr ardal ac a allforiwyd o Aberteifi.
Castell a Brwydr Cilgerran
golygu- Prif: Brwydr Cilgerran
Yn ymyl y dref ceir adfeilion Castell Cilgerran, castell Seisnig o'r 13g. Saif y castell ar drwyn o graig uwchlaw afon Teifi. Credir mai castell mwnt a beili a godwyd ar y safle yn wreiddiol tua'r flwyddyn 1100. Mae'r castell carreg presennol yn dyddio o ddechrau'r 13g.
Roedd Brwydr Cilgerran yn un o fuddugoliaethau mwya'r Cymry yn erbyn y Saeson, gan ddilyn yn agos at sodlau buddugoliaethau eraill yng Nghymerau ac yng Nghydweli. Roedd Llywelyn hefyd wedi cipio sawl castell yn ôl i ddwylo'r Cymry, gan gynnwys cestyll a threfi Talacharn, Llansteffan ac Arberth. Disgrifir y frwydr mewn sawl cronicl o'r cyfnod, ceir cronicl llaw iawn gan Chronica Majora gan Mathew Paris yn ogystal â thestun-B yr Annales Cambriae. Hyd yn ddiweddar, nid oedd trawsysgrifiad modern o'r gweithiau hyn ar gael, felly ni ddaeth pwysigrwydd y frwydr i'r amlwg tan yn ddiweddar (21c).
Yn wahanol i lawer o frwydrau'r cyfnod gwyddom union enwau arweinwyr y ddwy fyddin a'r union leoliad hefyd, i'r gogledd-orllewin o Gastell Cilgerran.
Yn 1258 galwodd Llywelyn ap Gruffudd holl is-dywysogion ac uchelwyr Cymru ato i dalu teyrnged iddo, casglodd drethi a galwodd ei hun yn Dywysog Cymru yn hytrach na 'Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri'.
Y frwydr
golyguErbyn 17 Mehefin 1258 roedd Maredudd ap Rhys wedi troi ei got ac yn deyrngar i Harri III, brenin Lloegr. Roedd Llywelyn yn gandryll am hyn,a llosgodd diroedd a meddiant Maredudd ap Rhys yn Nyffryn Tywi ond gyda chymorth Patrick de Chaworth daliodd ei afael mewn ambell gastell.
Trechwyd Maredydd a Patrick ger Cydweli a dinghanodd gweddillion Normanaidd i loches Castell Caerfyrddin. Symudodd byddin y Cymry, dan arweiniad Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn, eu gwersyll o Faenordeifi yn agos at Gastell Cilgerran. Prif gapteiniaid Dafydd oedd Rhys Fychan ap Rhys Mechyll (m. 1271), Maredudd ab Owain (m.1265) ac Owain ap Gruffudd. Ymddengys eu bod yn awyddus i drafod heddwch gyda Patrick de Chaworth a'r rebel Maredudd ap Rhys. Sylweddolodd y ddau fod ganddynt fyddin llawer mwy na Byddin Cymru ac felly penderfynwyd ymosod arnynt gan gasglu eu byddin yn Aberteifi a'u martsio i Gilgerran. Cyrhaeddodd y fyddin Seisnig Cilgerran ganol dydd, gyda marchogion mewn arfwisgoedd ar y blaen. Cafwyd brwydr waedlyd iawn, yn ôl un cronicl, ond o dipyn i beth sylweddolwyd fod y Saeson yn cael eu trechu, gyda nifer ohonynt yn rhedeg am eu bywydau i gestyll Cilgerran ac Aberteifi, yn hytrach nag ymladd.
Roedd y fuddugoliaeth hon yn cryfhau pwer Llywelyn, yn enwedig pan arwyddwyd Cytundeb Trefaldwyn yn 1261.
Hamdden a thwristiaeth
golyguCynhelir ras cwrwgl ger y dref. Mae'r ras, a gychwynwyd yn 1950, yn denu cystadleuwyr o sawl gwlad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 10 Tachwedd 2021
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dinas
Tyddewi
Trefi
Aberdaugleddau · Arberth · Abergwaun · Cilgerran · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · Hwlffordd · Neyland · Penfro · Wdig
Pentrefi
Aber-bach · Abercastell · Abercuch · Abereiddi · Aberllydan · Amroth · Angle · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Cas-blaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd-bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm-yr-Eglwys · Dale · Dinas · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Jeffreyston · Johnston · Llanbedr Felffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maenordeifi · Maiden Wells · Manorowen · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Pentre Galar · Pontfadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rhos-y-bwlch · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Fflwrens · Sain Ffrêd · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tafarn-sbeit · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Trefwrdan · Treglarbes · Tre-groes · Treletert · Tremarchog · Uzmaston · Waterston · Yerbeston