Jennifer Saunders

actores a aned yn Sleaford yn 1958

Digrifwr, sgriptiwr, actores a chantores o Loegr ydy Jennifer Jane Saunders (ganed 6 Gorffennaf 1958). Mae hi wedi ennill dwy wobr BAFTA, Gwobr Emmy Rhyngwladol, Gwobr Gomedi Brydeinig, Gwobr Gŵyl Adloniant Ysgafn Rode d'Or, dwy wobr y Writers' Guild of Great Britain Awards, a Gwobr Peoples Choice.

Jennifer Saunders
Ganwyd6 Gorffennaf 1958 Edit this on Wikidata
Sleaford Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama
  • Ysgol Sant Pawl, Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor, digrifwr, sgriptiwr, hunangofiannydd, athro Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAbsolutely Fabulous, Shrek 2 Edit this on Wikidata
PriodAde Edmondson Edit this on Wikidata
PlantElla Edmondson, Beattie Edmondson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Cymdeithas Academi BAFTA Edit this on Wikidata

Daeth Saunders i amlygrwydd yn ystod y 1980au a dechrau'r 1990au pan oedd yn aelod o The Comic Strip wedi iddi raddio o'r Central School of Speech and Drama. Ynghyd â'i phartner comedi Dawn French, ysgrifennodd ac actiodd yn eu sioe sgetsys, French & Saunders, a derbyniodd glod rhyngwladol am chwarae'r brif rhan yng nghomedi sefyllfa'r BBC Absolutely Fabulous.

Mae hi hefyd wedi ymddangos fel gwestai yn y comedïau sefyllfa Americanaidd Roseanne a Friends, ac enillodd y People's Choice Award Americanaidd am leisio rhan y Tylwyth Teg creulon yn ffilm animeiddiedig 'DreamWorks' Shrek 2. Yn fwy diweddar, ysgrifennodd ac actiodd yn Jam & Jerusalem a The Life and Times of Vivienne Vyle.

Cyfeiriadau

golygu