Jeremiah Azu
Gwibiwr o Gymro yw Jeremiah Azu (ganwyd 15 Mai 2001).[1] Enillodd y ras 100 metr dynion ym Mhencampwriaethau Athletau Prydain 2022, mewn amser gyda chymorth gwynt o 9.90 eiliad.[2][3]
Jeremiah Azu | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mai 2001 Tredelerch |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cafodd Azu ei eni yn Nhredelerch, Caerdydd.
Cynrychiolodd Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022, lle gorffennodd yn bumed yn y 100 metr.[4] Ym Mhencampwriaethau Athletau 2022, enillodd fedal efydd yn y 100 metr.[5][6] Enillodd fedal aur yn y ras cyfnewid 4 x 100 metr, gyda'i gyd-chwaraewyr Zharnel Hughes, Jona Efoloko a Nethaneel Mitchell-Blake.
Yng Gemau Olympaidd yr Haf 2024, cafodd Azu ei ddiarddel yng nghystadleuaeth ragbrofol 100 metr y dynion.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Jeremiah Azu - Welsh Athletics". www.welshathletics.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mehefin 2022.
- ↑ "Azu gold tops Welsh success at UK Championship". BBC Sport. 25 Mehefin 2022. Cyrchwyd 26 Mehefin 2022.
- ↑ Henderson, Jason (25 Mehefin 2022). "Jeremiah Azu speeds to British 100m gold". Athletics Weekly. Cyrchwyd 26 Mehefin 2022.
- ↑ "Welsh flyer Jeremiah Azu eyes 'big opportunity' for 100 metres medal". Nation Cymru (yn Saesneg). 1 Awst 2022. Cyrchwyd 17 Awst 2022.
- ↑ "European Championships: Jeremiah Azu claims 100m bronze with new personal best". ITV (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Awst 2022.
- ↑ "Welshman Jeremiah Azu takes 100m bronze for Great Britain at European Championships". WalesOnline (yn Saesneg). 16 Awst 2022. Cyrchwyd 21 Awst 2022.
- ↑ "Jeremiah Azu in Olympics 100m disaster as he's escorted from track amid protest" (yn Saesneg). Wales Online. Cyrchwyd 3 Awst 2024.