Jessie C. Methven

Ffeminist a swffragét o'r Alban oedd Jessie C. Methven (1854 - 15 Chwefror 1917) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.

Jessie C. Methven
Ganwyd1854 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 1917 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethswffragét, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yng Nghaeredin yn 1854. Bu'n ysgrifennydd anrhydeddus Cymdeithas Genedlaethol Caeredin dros Rhoi'r Bleidlais i Ferched (the Edinburgh National Society for Women's Suffrage), o ganol y 1890au hyd 1906. Yn dilyn hynny, ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, grŵp mwy milwriaethus. Disgrifiai ei hun fel "sosialydd annibynnol".[1]

Dyddiau cynnar golygu

Rhieni Jessie Cunningham Methven oedd Janet Allan a Thomas Methven. Roedd y teulu'n byw yn 25 Great King Street, Caeredin lle bu hithau fyw, drwy gydol ei bywyd gyda'i chwiorydd Helen a Minnie a'i brawd Henry, masnachwr hadau. Mae cyfrifiad 1901 yn ei chofnodi fel "byw ar ei hincwm ei hun".[2] Yn 1885 cynhaliodd ei mam "drawing room meeting" o Gymdeithas Genedlaethol y Merched ar gyfer rhoi'r Bleidlais i Fenywod, ac etholwyd Methven yn ysgrifennydd i'r gymdeithas.[3]

Ymgyrchodd Methven dros rhoi'r bleidlais i fenywod (neu 'etholfraint') am flynyddoedd lawer ac fe'i disgrifiwyd fel “gweithiwr gweithgar iawn dros yr achos”.[4] Fel ysgrifennydd anrhydeddus Cymdeithas Genedlaethol Caeredin dros Rhoi'r Bleidlais i Ferched, roedd yn awdur toreithiog i bapurau newydd a chynghorau lleol, ac ysgrifennai i godi ymwybyddiaeth y pwysigrwydd o roi'r bleidlais i fenywod. Cododd arian, trefnodd ddeisebau a chymerodd ran mewn protestiadau a chyfarfodydd cyhoeddus heddychlon fel swffragét.

Ond cyn hir a hwyr, dadrithiodd gyda'r dull hwn, ac ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched ym 1906. Cymerodd ran mewn protestiadau swffragetaidd ac fe'i harestiwyd yn Llundain ar 22 Tachwedd 1911,[5] pan roedd Methven yn un o 223 o brotestwyr y WSPU yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd wedi teithio gyda phum menyw arall o Gaeredin (Elizabeth ac Agnes Thomson, Edith Hudson, Alice Shipley a Mrs Grieve). Cafodd ddedfryd o 10 diwrnod o garchar a dirwy o ddeg swllt (10/-) am dorri ffenestri.[6]

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Caeredin dros Hawliau Merched i Bleidleisio, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866-1928. Awdur: Crawford, Elizabeth (1999). Routledge.
  2. 1901 England, Wales & Scotland Census.
  3. The Women's Suffrage Movement in Britain and Ireland. Crawford, Elizabeth (2006). Routledge. tud. 223.
  4. A Guid Cause. Leneman, Leah (1995). Mercat Press. tud. 41.
  5. The Suffragist Disturbances. The Scotsman. Caeredin; 23 Tachwedd 1911.
  6. Prisoners sentenced Friday, 24 Tachwedd 1911. Suffragette Collection. Yr Archifdy Cenedlaethol.