Yr Alban
Gwlad yng ngogledd orllewin Ewrop yw'r Alban (hefyd Sgotland) (Gaeleg yr Alban: Alba; Sgoteg a Saesneg: Scotland). Perthynai trigolion ei deheudir i'r un grŵp ethnig a phobl Cymru am gyfnod o fileniwm, gyda'r Frythoneg Orllewinol (ac yna'r Gymraeg) yn cael ei siarad o lannau'r Fife i Fynwy.[1] Mae felly'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd Prydain, enwog am ei wisgi. Ar 18 Medi cynhaliwyd Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 a flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd Etholiad Cyffredinol lle gwelwyd newid syfrdanol yng nghenedlaetholdeb ei thrigolion.
Alba | |
Math | Gwlad |
---|---|
Prifddinas | Caeredin |
Poblogaeth | 5,404,700 |
Anthem | Flower of Scotland |
Pennaeth llywodraeth | John Swinney |
Cylchfa amser | UTC+00:00, UTC+01:00 |
Nawddsant | Andreas |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Gaeleg, Sgoteg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | cenhedloedd Celtaidd |
Sir | y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 78,782 km² |
Yn ffinio gyda | Lloegr |
Cyfesurynnau | 57°N 5°W |
Cod SYG | S92000003 |
GB-SCT | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth yr Alban |
Corff deddfwriaethol | Senedd yr Alban |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog yr Alban |
Pennaeth y Llywodraeth | John Swinney |
Arian | punt sterling |
- Am ystyron eraill, gweler Alban (gwahaniaethu)
Sant Andreas, un o apostolion Iesu Grist, yw nawddsant yr Alban – 30 Tachwedd yw dyddiad dygwyl Sant Andreas. Roedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y 18g. Ar 26 Mawrth 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd senedd yr Alban yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain.
Siaredir dwy iaith frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg – Gaeleg a Sgoteg. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.
Daearyddiaeth
golygu- Prif: Daearyddiaeth yr Alban
O ran arwynebedd, mae'r tir mawr yn draean y gweddill o wledydd Prydain, sef 78,772 km2 (30,414 mi sgw).[2] Mae felly tua'r un maint â'r Weriniaeth Tsiec Yr unig ffin wleidyddol ydy hwnnw yn ne'r wlad gyda Lloegr, sy'n 96 km (60 mi) – rhwng aber Afon Tuedd yn y dwyrain hyd at Moryd Solway (Solway Firth).[3] Saif Iwerddon 30 km (19 mi) i'r gorllewin o benrhyn Kintyre;[4] mae Norwy 305 km (190 mi) i'r gogledd ddwyrain, ac mae Ynysoedd Ffaröe 270 km i'r gogledd.
Mae'r Alban yn nodedig am ei mynyddoedd. Yn ystod y cyfnod Pleistosen, roedd y wlad wedi'i gorchuddio o dan rew ac mae olion y rhewlifau i'w gweld yn amlwg ar y tirwedd. Y prif nodwedd ddaearegol yw'r ffalt a red o Arran hyd at Stonehaven ac mae'r creigiau sydd i'r gogledd o'r ffin hwn (sef Ucheldir yr Alban) yn hen iawn ac yn perthyn i gyfnod Cambriaidd a Chyn-Gambriaidd.
Mae'r iseldir yn perthyn i ddau gyfnod gwahanol; mae gogledd yr iseldir yn perthyn i'r Paleogen a'r de'n perthyn i'r cyfnod Silwraidd, sef 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Awdurdodau unedol
golyguDyma restr o awdurdodau unedol yr Alban a map sy'n dangos eu lleoliad yn y wlad:
Afonydd
golygu- Prif: Rhestr afonydd yr Alban
Y deg prif afon yn yr Alban, yn nhrefn eu hyd, yw:
- Afon Tay 120 milltir (190 km)
- Afon Spey 107 milltir (172 km)
- Afon Clud 106 milltir (171 km)
- Afon Tuedd 97 milltir (156 km)
- Afon Dee 85 milltir (137 km)
- Afon Don 82 milltir (132 km)
- Afon Nith 71 milltir (114 km)
- Afon Forth 65 milltir (105 km)
- Afon Findhorn 63 milltir (101 km)
- Afon Deveron 61 milltir (98 km)
Hanes
golygu- Prif: Hanes yr Alban
Hanes Cynnar
golyguDinistriodd y rhewlifoedd parhaus, a orchuddiai arwynebedd tir yr Alban yn llwyr, unrhyw olion o fodolaeth dynol yn ystod y cyfnod Oes Ganol y Cerrig. Credir i'r criwiau cyntaf o helwyr-gasglwyr gyrraedd yn yr Alban oddeutu 12,800 o flynyddoedd yn ôl, am fod yr iâ wedi diflannu wedi'r cyfnod rhewlifol olaf.[5][6]
Dechreuodd y setlwyr cyntaf adeiladu eu tai parhaol cyntaf yn yr Albaen tua 9,500 o flynyddoedd yn ôl, a gwelwyd y pentrefi cyntaf tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Daw'r pentref Skara Brae ar prif dir Orkney o'r cyfnod hwn. Mae cynefinoedd Neolithig, safleoedd claddu a defodau yn gyffredin iawn yn Ynysoedd y Gogledd ac Ynysoedd y Gorllewin, lle roedd prinder o goed wedi arwain at y rhan fwyaf o adeiladau'n cael eu codi o garreg.[7]
Diwylliant
golygu- Prif: Diwylliant yr Alban
Siaradwyd y Frythoneg Ddwyreiniol o lannau'r Fife i lannau'r Hafren a Chynfeirdd o ddeheudir yr Alban oedd Taliesin ac Aneirin. Arweinydd o Fanaw Gododdin yn Nyffryn y Forth oedd Cunedda yn ôl yr hanes, sef sefydlydd Teyrnas Gwynedd. Roedd cryn gyfathrach a mynd-a-dod rhwng Cymru a'r Alban hefyd yn Oes y Seintiau: mae Cyndeyrn (Saesneg: Mungo) yn dal i gael ei gofio yn Llanelwy ac yn Glasgow.
Gweler hefyd
golygu- Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014
- Ucheldiroedd yr Alban
- Iseldiroedd yr Alban
- Rhestr ardaloedd cyfrifiad yr Alban
- Rhestr o lefydd yn yr Alban o ran poblogaeth
- Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn yr Alban
- Rhestr llynnoedd yr Alban
- Rhestr copaon yr Alban
- Rhestr o ddinasoedd yr Alban
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol, 2008), tud. 31
- ↑ Whitaker's Almanack (Llundain: J. Whitaker and Sons, 1991)
- ↑ Geiriadur yr Academi, tud. 535
- ↑ D. Munro, Scotland Atlas and Gazetteer (Harper Collins, 1999), tud. 1–2
- ↑ Y dystolaeth cynharaf y gwyddir amdano ydy pen saeth fflint o Islay. Gweler Alistair Moffat, Before Scotland: The Story of Scotland Before History (Llundain: Thames & Hudson, 2005), tud. 42.
- ↑ Mae safleoedd yn Cramond i 8500 CC a ger Kinloch, Rùm o 7700 CC yn darparu tystiolaeth fod bod dynol wedi trigo yn yr Alban. Gweler "The Megalithic Portal and Megalith Map: Rubbish dump reveals time-capsule of Scotland's earliest settlements" megalithic.co.uk.; adalwyd 10 Chwefror 2008; a Kevin J. Edwards a Graeme Whittington, "Vegetation Change", yn Scotland After the Ice Age: Environment, Archaeology and History, 8000 BC–AD 1000, gol. Kevin J. Edwards ac Ian B. M. Ralston (Caeredin: Edinburgh University Press, 2003), tud. 70
- ↑ (2003) Britain BC. London: HarperPerennial. ISBN 978-0007126934