Gyrrwr rasio Fformiwla Un o'r Alban oedd Jim Clark (4 Mawrth 19367 Ebrill 1968).

Jim Clark
Ganwyd4 Mawrth 1936 Edit this on Wikidata
Kilmany Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ebrill 1968 Edit this on Wikidata
o damwain cerbyd Edit this on Wikidata
Hockenheimring Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Loretto School
  • Clifton Hall School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgyrrwr Fformiwla Un, ffermwr, actor ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonYr Alban Edit this on Wikidata

Enillodd bencampwriaeth y byd ddwywaith, yn 1963 a 1965.

Ganed ef fel James Clark i deulu amaethyddol yn Fife. Yn 1942 symudodd y teulu i fferm ger Duns, yn Swydd Berwick. Dechreuodd rasio ceir yn 1956, ac erbyn 1961 roedd yn gyrru i dîm Lotus yn y bencampwriaeth Fformiwla Un. Yn 1963, enillodd saith allan o'r deg ras yn y bencampwriaeth.

Lladdwyd ef mewn damwain yn ystod ras Fformiwla 2 ar drac yr Hockenheimring yn yr Almaen ar 7 Ebrill 1968. Gadawodd ei gar Lotus 48 y trac a tharo coeden, gan ei ladd yn syth. Nid oes sicrwydd am achos y ddamwain.

Cyfeiriadau

golygu