Jim Pleass
Cricedwr Cymreig oedd James Edward 'Jim' Pleass (21 Mai 1923 – 16 Chwefror 2016) Roedd yn fatiwr llaw dde.
Jim Pleass | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mai 1923 Caerdydd |
Bu farw | 16 Chwefror 2016 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cricedwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Criced Morgannwg |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganwyd Pleass yng Nghaerdydd, Sir Forgannwg ac yn ddyn ifanc roedd yn bêl-droediwr digon dawnus i gael treial gyda chlwb pêl-droed Chaerdydd.[1].
Cychwynnodd Pleass ei yrfa criced dosbarth-cyntaf ar gyfer Clwb Criced Morgannwg ym Mhencampwriaeth Sirol 1947 yn erbyn Derbyshire. Chwaraeodd griced dosbarth-cyntaf i Forgannwg am bron i ddegawd, gan ymddangos 171 o weithiau, gyda'i ymddangosiad olaf yn erbyn Warwickshire ym Mhencampwriaeth Sirol 1956.[2] Roedd Pleass yn fatiwr ymosodol canol y rhestr,[3] a sgoriodd gyfanswm o 4,293 rhediad ar gyfartaledd o 19.33.[4] Sgoriodd unarddeg hanner canrif, tra daeth ei unig ganrif, sgôr o 102 ddim allan, yn erbyn Yorkshire yn 1955, gan sicrhau buddugoliaeth gyntaf Morgannwg yn erbyn Yorkshire yn y sir honno.[5] Daeth ei gyfnod mwyaf llwyddiannus yn 1950, pan wnaeth 28 ymddangosiad dosbarth-cyntaf, gan sgorio 740 rhediad ar gyfartaledd o 24.66.[6] Roedd yn faeswr da,[3] a daliodd 77 pêl yn y maes.[4]
Yn dilyn ei ymddeoliad o griced dosbarth-cyntaf yn 1956, aeth Pleass i fyd busnes yng Nghaerdydd. Fe wasanaethodd ar bwyllgor Morgannwg, yn ogystal â bod yn ysgrifennydd i Gymdeithas Cyn Chwaraewyr Morgannwg.[3] Bu farw Pleass yng Nghaerdydd yn Chwefror 2016. Yn 92 oed, fe oedd yr aelod byw olaf o dîm Morgannwg a enillodd Bencampwriaeth Sirol 1948.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Teyrngedau i Jim Pleass , Golwg360, 21 Chwefror 2016.
- ↑ "First-Class Matches played by Jim Pleass". CricketArchive. Cyrchwyd 15 February 2012.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Hignell, Dr. A.K. (2003). "Brief profile of Jim Pleass". CricketArchive. Cyrchwyd 15 February 2012.
- ↑ 4.0 4.1 "First-class Batting and Fielding For Each Team by Jim Pleass". CricketArchive. Cyrchwyd 15 February 2012.
- ↑ "Yorkshire v Glamorgan, 1954 County Championship". CricketArchive. Cyrchwyd 15 February 2012.
- ↑ "First-class Batting and Fielding in Each Season by Jim Pleass". CricketArchive. Cyrchwyd 15 February 2012.
- ↑ Glamorgan county championship winning legend Jim Pleass dies aged 92 , walesonline.co.uk, 20 Chwefror 2016. Cyrchwyd ar 21 Chwefror 2016.
Dolenni allanol
golygu- Jim Pleass yn ESPNcricinfo
- Jim Pleass yn CricketArchive