Jimmy Savile
Cyflwynydd radio a theledu ac actor o Loegr oedd Syr James Wilson Vincent Savile OBE, KCSG (31 Hydref 1926 – 29 Hydref 2011), sy'n cael ei adnabod gan amlaf fel Jimmy Savile. Mae'n fwyaf enwog am gyflwyno rhaglen deledu'r BBC Jim'll Fix It, ac am fod y cyflwynydd cyntaf a'r olaf ar raglen siart gerddorol y BBC, Top of the Pops. Mae ef hefyd yn enwog am gefnogi elusennau amrywiol. Bu farw yn ei gartref yn Leeds, Lloegr ar 29 Hydref 2011.
Jimmy Savile | |
---|---|
Ganwyd | James Wilson Vincent Savile 31 Hydref 1926 Leeds |
Bu farw | 29 Hydref 2011 Roundhay |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | troellwr disgiau, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, hunangofiannydd, pêl-droediwr, ymgodymwr proffesiynol, sex offender |
Adnabyddus am | Young at Heart, Jim'll Fix It, Top of the Pops |
Gwobr/au | Marchog-Cadlywydd Urdd Sant Grigor Fawr, OBE, Marchog Faglor, Cross pro Merito Melitensi |
Chwaraeon |
Ar ôl iddo farw, daeth honiadau i'r fei ei fod wedi camdrin merched yn eu harddegau'n rhywiol yn ystod y 1960au a'r 1970au. Ers yr honiadau, mae'r heddlu wedi ei ddisgrifio fel "troseddwr rhywiol rheibus"[1] a bu nifer yn galw am iddo golli'r anrhydeddau a roddwyd iddo pan oedd yn fyw. Yn Hydref 2012, dechreuodd yr Heddlu Fetropolitan asesiad o'r honiadau, gan gyhoeddi ymchwiliad ar y cyd â'r NSPCC i mewn i honiadau o ymosodiadau rhywiol a wnaed gan Savile dros bedwar degawd. Dechreuwyd ar ymchwiliadau hefyd i arferion gwaith rhai o'r llefydd y gweithiodd, gan gynnwys yn y BBC ac mewn ysbytai.