Roedd Joan Beaufort (c. 1404 –15 Gorffennaf 1445) yn frenhines yr Alban o 1424 hyd 1437 fel gwraig i Iago I, brenin yr Alban. Yn ystod rhan o leiafrif ei mab Iago II, brenin yr Alban, gwasanaethodd hi fel rhaglyw yr Alban.

Joan Beaufort
Ganwyd1404 Edit this on Wikidata
Bu farw15 Gorffennaf 1445 Edit this on Wikidata
Dunbar Castle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Alban Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
TadJohn Beaufort Edit this on Wikidata
MamMargaret Beaufort, Countess of Somerset Edit this on Wikidata
PriodIago I, brenin yr Alban, James Stewart, the Black Knight of Lorn Edit this on Wikidata
PlantMargaret Stewart, Isabella of Scotland, Duchess of Brittany, Eleanor of Scotland, Mary Stewart, Countess of Buchan, Joan Stewart, Countess of Morton, Alexander Stewart, Duke of Rothesay, Iago II, brenin yr Alban, Annabella of Scotland, James Stewart, 1st Earl of Buchan, John Stewart, 1st Earl of Atholl, Andrew Stewart Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Beaufort Edit this on Wikidata

Roedd Joan Beaufort yn ferch i John Beaufort, Iarll 1af Gwlad yr Haf, a'i wraig Margaret Holland. Roedd John Beaufort yn fab i John o Gaunt a'i feistres (a thrydedd wraig yn ddiweddarach) Katherine Swynford.[1] Roedd Margaret Holland yn wyres i Joan o Gaint, Tywysoges Cymru, o'i phriodas â Thomas Holland.[1]

Cyfarfu Joan Beaufort â James pan oedd yn wystl yn Lloegr yn ystod teyrnasiad Harri V, brenin LloegrHarri V [2] Efallai roedd hi'n ysbrydoliaeth ar gyfer cerdd hir enwog y Brenin Iago, The Kingis Quair.[3]

Ar 12 Chwefror 1424, priododd Joan Beaufort â’r Brenin Iago yn Eglwys y Santes Fair Overie yn Southwark, Llundain.[4] Aeth gyda'i gŵr i'r Alban, a choronwyd hi gyda fe yn Abaty Scone Scone Abbey.[3]

Roedd gan y cwpl brenhinol wyth o blant, gan gynnwys y dyfodol Iago II, a Margaret o'r Alban, priod Louis XI, brenin Ffrainc.[4]

Cafodd Iago I ei lofruddio yn Perth ar 21 Chwefror 1437. Ym mis Gorffennaf 1439, priododd Joan â James Stewart, Marchog Du Lorne, ar ôl cael gollyngiad Pab. Bu hi dan warchae yng Nghastell Dunbar gan Iarll Douglas pan fu farw ar 15 Gorffennaf 1445. Claddwyd hi yn y Priordy Carthusian , Perth.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "James I and Joan Beaufort: A Royal Love Story". History... the interesting bits! (yn Saesneg). 31 Mawrth 2015. Cyrchwyd 30 Mawrth 2018.
  2. Brown 2004.
  3. 3.0 3.1 Marshall, Rosalind (2003). Scottish Queens, 1034–1714 (yn Saesneg). Tuckwell Press.
  4. 4.0 4.1 4.2 Weir, Alison (2008). Britain's Royal Families, The Complete Genealogy (yn Saesneg). London: Vintage Books. ISBN 978-0-09-953973-5.
Rhagflaenydd:
Annabella Drummond
{{{teitl}}}
12 Chwefror 143421 Chwefror 1437
Olynydd:
Mari o Guelders