John o Gaunt
Aelod o'r teulu brenhinol Seisnig oedd John o Gaunt, dug 1af Caerhirfyn (6 Mawrth 1340 - 3 Chwefror 1399). Roedd yn fab i Edward III, brenin Lloegr a Philippa o Hainault, ac yn berson dylanwadol iawn yn y cyfnod pan oedd ei nai, Rhisiart II yn dal yn blentyn.
John o Gaunt | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Mehefin 1340 ![]() Gent ![]() |
Bu farw | 3 Chwefror 1399 ![]() Castell Caerlŷr ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Arglwydd Uchel Ddistain Lloegr ![]() |
Tad | Edward III, brenin Lloegr ![]() |
Mam | Philippa o Hainault ![]() |
Priod | Blanche o Gaerhirfryn, Constance of Castile, Duchess of Lancaster, Katherine Swynford ![]() |
Plant | Philippa of Lancaster, Elizabeth of Lancaster, Duchess of Exeter, Harri IV, brenin Lloegr, Catherine of Lancaster, John Beaufort, 1st Earl of Somerset, Joan Beaufort, Countess of Westmorland, Blanche Plantagenet, John of Lancaster, Edward Planatagenet, John Plantagenet, Isabella Plantagenet, Henry Beaufort, Thomas Beaufort, Duke of Exeter, John Plantagenet ![]() |
Llinach | Lancastriaid ![]() |
Gwobr/au | Urdd y Gardas ![]() |
BywgraffiadGolygu
Ganed ef yn Ghent (Gwlad Belg yn awr), a elwid yn "Gaunt" yn Saesneg bryd hynny. Priododd dair gwaith, yn gyntaf a Blanche o Lancaster, yna a Constance o Castilla ac yn olaf a Katherine Swynford; rhoddodd yr ail briodas agoriad iddo hawlio coron Teyrnas Castilla, ond ni fu'n llwyddiannus yn hyn. Ei ddisgynyddion ef oedd Brenhinllin Lancaster, yn cynnwys Harri IV, Harri V a Harri VI. Roedd Edward IV, Rhisiart III a Harri VII neu Harri Tudur, hefyd yn ddisgynyddion iddo trwy Katherine Swynford.