Jodie Whittaker

actores a aned yn 1982

Actores Seisnig yw Jodie Auckland Whittaker (ganed 3 Mehefin 1982). Daeth i amlygrwydd gyntaf yn 2006 yn ei ffilm nodwedd gyntaf Venus, dan dderbyn enwebiadau Gwobr British Independent Film a Gwobr Satellite. Yn ddiweddarach fe'i ganmolwyd am ei rhannau yn y ffilm ffuglen wyddonol gwlt Attack The Block (2011), pennod "The Entire History of You" o Black Mirror (2011), ac y fam alarus Beth Latimer yng nghyfres deledu Chris Chibnall, Broadchurch (2013-2017).

Jodie Whittaker
Ganwyd3 Mehefin 1982, 17 Mehefin 1982 Edit this on Wikidata
Skelmanthorpe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
PriodChristian Contreras Edit this on Wikidata

Ar 16 Gorffennaf 2017, cyhoeddwyd fod Whittaker wedi ei chastio fel cymeriad y Doctor yn y gyfres deledu boblogaidd Doctor Who, y trydedd-ar-ddeg ymgnawdoliad o'r cymeriad a'r fenyw gyntaf yn y rhan. Bydd yn cymryd yr awennau ym mhennod Nadolig arbennig "The Doctors" yn Rhagfyr 2017.[1] Bydd yn cychwyn ar y gyfres ynghyd â Chris Chibnall, a fydd yn dechrau fel cynhyrchydd a phrif awdur y gyfres.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Whittaker yn Skelmanthorpe. Aeth i Goleg Shelley, Gorllewin Swydd Efrog, i ddechrau cyn derbyn hyfforddiant yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, gan raddio yn 2005 gyda'r fedal aur am actio.[2]

Gyrfa golygu

Ymddangosodd Whittaker am y tro cyntaf yn broffesiynol mewn cynhyrchiad o Y Storm yn Shakespeare's Globe yn 2005. Ers hynny, mae wedi gweithio mewn ffilm, teledu, radio a theatr. Yn 2007, safodd i mewn ar fyr rybudd ar gyfer Carey Mulligan yng nghynhyrchiad y Royal Court o The Seagull, a ymddangosodd mewn drama i godi arian yn y Theatr Almeida.

Yn ei phrif ran cyntaf roedd yn cyd-serennu fel Jessie / Venus yn y ffilm Venus. Mae ei credydau radio yn cynnwys addasid 2008 o Blinded by the Sun gan Stephen Poliakoff[3] a Lydia Bennett yn Unseen Austen, drama wreiddiol gan Judith French. Yn 2009, bu'n gweithio ar y ffilm Ollie Kepler's Expanding Purple World, y ddrama BBC2 drama Royal Wedding,[4] a'r ffilm fer Wish 143,[5] a enwebwyd am Wobr yr Academi ar gyfer Ffilm Fer yn 83ydd Gwobrau'r Academi.[6]

Yn 2010, ymddangosodd Whittaker yn y ffilm The Kid a cyd-serennodd yn nrama'r BBC Accused. Ymddangosodd yn y ffilm gomedi droseddol Gwyddelig Perrier's Bounty (2009). Yn 2011, ymddangosodd fel Viv yn addasiad y BBC o nofel Sarah Waters The Night Watch ac yn y ffilm gwlt Attack The Block. Yn 2012, serennodd yn y sioe gerdd drama-gomedi Good Vibrations.

O fis Mawrth i Ebrill 2013, serennodd Whittaker yn nrama dditectif ITV Broadchurch; gan ddychwelyd i'r rhan mewn dau gyfres pellach, cyn diweddglo'r sioe yn 2017. Yn Ionawr 2014, serennodd yn The Assets ar ABC, cyfres ddrama ysbiwyr wedi ei seilio ar wirionedd.[7]

Ar 16 Gorffennaf 2017, cyhoeddwyd Whittaker fel trydedd-ar-ddeg ymgnawdoliad y Doctor yn y gyfres deledu ffuglen wyddonol Doctor Who; hi bydd y fenyw gyntaf yn hanes y fasnachfraint i chwarae'r prif ran.[8][9]

Bywyd personol golygu

Mae Whittaker wedi bod yn briod a'r actor Americanaidd Cristian Contreras ers 2008.[10] Roedd ei nai yn chwarae Leo Goskirk yn Emmerdale cyn ei farwolaeth yn dair oed yn 2014.[11][12]

Adroddodd y wasg yn Ionawr 2015 bod Whittaker yn feichiog gyda'i phlentyn cyntaf;[13] ganwyd y plentyn yn Ebrill 2015.[14]

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilm golygu

Blwyddyn Teitl[15] Rhan Nodiadau
2006 Venus Jessie Enwebwyd—ALFS Award for British Newcomer of the Year

Enwebwyd—British Independent Film Award for Most Promising Newcomer (On Screen)
Enwebwyd—London Critics Circle Film Award for British Newcomer of the Year
Enwebwyd—Satellite Award for Best Actress in a Motion Picture, Comedy or Musical

2007 St Trinian's Beverly
2008 Good Anne Hartman
2009 Mr. Dorothy Mitch's Wife (llais) Ffilm fer
2009 White Wedding Rose
2009 Swansong: Story of Occi Byrne Bridget Byrne
2009 Roar Eva Ffilm fer
2009 Perrier's Bounty Brenda
2009 Wish 143 Maggie Ffilm fer
2009 St Trinian's 2: The Legend of Fritton's Gold Beverly
2010 The Kid Jackie
2010 Ollie Kepler's Expanding Purple World Noreen Stokes
2011 Hello Carter Susie Ffilm fer
2011 Two Minutes Juliette Ffilm fer

Hefyd golygydd sain

2011 Attack the Block Samantha Adams Enwebwyd—Fangoria Chainsaw Award for Best Supporting Actress
2011 One Day Tilly
2011 A Thousand Kisses Deep Mia Selva Hefyd gweithredydd fideo
2012 Smoke Ffilm fer
2012 Good Vibrations Ruth
2012 Ashes Ruth
2012 Dust Jessica's Mum Ffilm fer
2013 Spike Island Suzanne
2013 Hello Carter Jenny
2014 Get Santa Alison
2014 Emotional Fusebox Anna Ffilm fer
2014 Black Sea Chrissy
2015 Adult Life Skills Anna Hefyd cynhyrchydd gweithredol

Enwebwyd—British Independent Film Award for Best Actress

2017 Journeyman Cwblhawyd

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2006 The Afternoon Play Sam Pennod: "The Last Will and Testament of Billy Two-Sheds"
2006 Doctors Louise Clancy Pennod: "Ignorance Is Bliss"
2006 Dalziel and Pascoe Kirsty Richards Pennod: "Fallen Angel"
2007 This Life + 10 Clare Ffilm deledu
2008 Tess of the D'Urbervilles Izzy Huett Cyfres fer
2008 Wired Louise Evans Cyfres fer
2008 The Shooting of Thomas Hurndall Sophie Ffilm deledu
2008 Consuming Passion Mary Boon Ffilm deledu
2009 Return to Cranford Peggy Bell 2 bennod
2009 Svengali Ellie the Barmaid Ffilm deledu
2010 Accused Emma Croft Pennod: "Liam's Story"
2010 Royal Wedding Linda Caddock Ffilm deledu
2011 Marchlands Ruth Bowen 5 pennod
2011 Black Mirror Ffion Pennod: "The Entire History of You"
2011 The Night Watch Vivian Pearce Ffilm deledu
2013–2017 Broadchurch Beth Latimer 24 pennod

Enwebwyd—Crime Thriller Award for Best Supporting Actress
Enwebwyd—RTS Television Award for Best Actress

2014 The Assets Sandra Grimes 8 pennod
2014 The Smoke Trish Tooley 8 pennod
2017 Trust Me Cath Hardacre
2017 Doctor Who The Doctor Y Trydydd ar Ddeg Doctor; ymddangosiad cyntaf yn "The Doctors"

Llwyfan golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2005 Storm, TheThe Storm Ampelisca Shakespeare's Globe
2006 Enemies Nadya Almeida Theatre
2007 Gaggle of Saints, AA Gaggle of Saints Sue Trafalgar Studios
2007 Awake and Sing! Hennie Berger Almeida Theatre
2012 Antigone Antigone National Theatre[16]

Radio golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2008 Blinded by the Sun Joanna BBC Radio 4
2008 Unseen Austen Lydia Bennett BBC Radio 4

Cyfeiriadau golygu

  1. "Doctor Who: Jodie Whittaker is to replace Peter Capaldi in the Time Lord regeneration game". The Daily Telegraph. 16 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2017.
  2. "Jodie Whittaker: Rise of a venus with her feet on the ground". The Yorkshire Post. 21 Mawrth 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-18. Cyrchwyd 27 Ionawr 2015.
  3. "Radio 4 – The Saturday Play". BBC. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2010.
  4. Leigh Holmwood (11 September 2009). "New BBC drama set to recall 1981 royal wedding | Media". The Guardian. London. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2010.
  5. ""Wish 143" Review". The Independent Critic. Cyrchwyd 16 July 2017.
  6. "Leyland's Tom Bidwell up for an Oscar for Wish 143". BBC. 25 February 2011. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2017.
  7. "The Assets". tv.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-21. Cyrchwyd 16 June 2017.
  8. "The next Doctor Who has been announced". The Independent (yn Saesneg). 16 Gorffennaf 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-16. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2017.
  9. "Doctor Who's 13th Time Lord to be a woman". BBC. 16 Mehefin 2017. Cyrchwyd 16 Mehefin 2017.
  10. Leigh Holmwood (18 Mehefin 2011). "Jodie Whittaker: 'I work a lot and no one knows who I am'". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-18. Cyrchwyd 10 Chwefror 2013.
  11. "Huddersfield actress Jodie Whittaker supporting World Down Syndrome Day – and nephew Harry!". Huddersfield Examiner. 22 Mawrth 2013. Cyrchwyd 28 Hydref 2016.
  12. "Emmerdale tribute to Marlon, Rhona son". Digital Spy. 10 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 28 Hydref 2016.
  13. Glover, Chloe (22 Ionawr 2015). "Actress Jodie Whittaker pregnant for first time". Huddersfield Daily Examiner. Cyrchwyd 22 Ionawr 2015.
  14. Smith, Riess (27 Chwefror 2017). "Broadchurch cast: Who is Jodie Whittaker? Life, career, husband and more". Daily Express. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2017.
  15. "Jodie Whittaker". British Film Institute. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2017.
  16. "Antigone: Family versus State". National Theatre. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2017.

Dolenni allanol golygu