Sarah Waters
Awdures Gymreig sy'n ysgrifennu yn Saesneg yw Sarah Waters (ganed 21 Gorffennaf 1966), sydd fwyaf adnabyddus am ei nofelau sydd wedi eu gosod yng nghymdeithas Fictoraidd, megis Tipping the Velvet a Fingersmith.
Sarah Waters | |
---|---|
Ganwyd | 21 Gorffennaf 1966 Neyland |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, llenor |
Arddull | ffuglen hanesyddol, lesbian fiction |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Lambda, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, CWA Historical Dagger, OBE, Gwobr Somerset Maugham |
Gwefan | http://www.sarahwaters.com/ |
Bywgraffiad
golyguGaned Sarah Waters yn Neyland, Sir Benfro, yn ferch i Ron a Mary Walters. Gwraig tŷ oedd ei mam, peiriannydd mewn purfa olew oedd ei thad, ac roedd ganddi chwaer.[1] Disgrifiai ei theulu fel un gweddol deniadol, hynod o ddiogel a magwriaethol, ac roedd ei thad yn berson arbennig o greadigol, a anogodd hi i adeiladu a dyfeisio.[2]
Mynychodd Ysgol Gyfun Aberdaugleddau cyn mynd ymlaen i astudio Saesneg, gan ennill gradd baglor o Brifysgol Caint, gradd meistr o Brifysgol Caerhirfryn, a Doethuriaeth o Brifysgol y Frenhines Mary, Llundain.[3] Fel rhan o'i ymchwil, darllenodd bornograffi'r 19g, ac yno daeth ar draws teitl ei nofel gyntaf, Tipping the Velvet.[4]
Mae Waters yn byw mewn fflat ar lawr uchaf tŷ Fictoraidd yn Kennington, de-ddwyrain Llundain.[1][4] Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg tra yn Llundain yn y City Lit. <www.citylit.ac.uk>
Cyn cychwyn ysgrifennu nofelau, gweithiodd Waters fel academydd, gan ennill doethuriaeth a dysgu eraill.[5] Cyn gynted ag y gorffennodd ei doethuriaeth, ysgrifennodd ei nofel gyntaf. Yn wir, tarddiad syniadau'r nofel oedd ei thesis.[2] Mae llawer iawn o ymchwil yn mynd i'w gwaith, ac mae'n mwynhau'r elfen honno o ysgrifennu am gyfnod arbennig.[6] Mae Waters yn aelod o gylch London North Writers, sydd wedi cynnwys yr awduron Charles Palliser a Neil Blackmore ymysg eraill.[7]
Heblaw am ei llyfr diweddaraf, The Little Stranger, mae ei holl nofelau'n dilyn themâu lesbiaidd.[6]
Tipping the Velvet (1998)
golyguTipping the Velvet oedd ei nofel gyntaf, roedd yn waith picaresque Fictoraidd, a gyhoeddwyd gan Virago ym 1998. Cymerodd 18 mis i gwblhau'r nofel.[8] Mae'r nofel yn cymryd ei theitl o'r slang Fictoraidd am cunnilingus.[4] Enillodd wobr Betty Trask ym 1999, a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Mail on Sunday/John Llewellyn Rhys.[4] Yn 2002, addaswyd y nofel yn gyfres deledu tair rhan ar gyfer BBC Two ac mae wedi cael ei chyfieithu i 24 o wahanol ieithoedd.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf new: mae'r paramedr teitl yn angenrheidiol.
- ↑ 2.0 2.1 Michelle McGrane. "Sarah Waters on writing: 'If I waited for inspiration to strike, it would never happen!' (Interview)", LitNet, 2006.
- ↑ The thesis can be downloaded from the British Library's EthOS archive: uk.bl.ethos.393332 Archifwyd 2022-12-02 yn y Peiriant Wayback
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Sarah Waters. Biography. sarahwaters.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2007. Adalwyd ar 24 Chwefror 2007.
- ↑ Benedicte Page. "Her Thieving Hands", Virago.
- ↑ 6.0 6.1 Malinda Lo. "Interview with Sarah Waters", AfterEllen.com, 6 Ebrill 2006.
- ↑ London North Writers.
- ↑ Ron Hogan. "Sarah Waters (Interview)", BookSense.com.
- ↑ "Sarah Waters: Interview", Time Out London.