Johann Gutenberg
Roedd Johannes Gensfleisch zur Laden zum Gutenberg (c. 1400 – 3 Chwefror 1468) yn ôf aur ac argraffwr o'r Almaen a ddyfeisiodd ddull o argraffu gyda theip symudol tua 1450. Ei waith enwocaf yw Beibl Gutenberg.[1]
Johann Gutenberg | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Johannes Gensfleisch zur Laden zum Gutenberg ![]() c. 1400 ![]() Mainz ![]() |
Bu farw | 1468 ![]() Mainz ![]() |
Man preswyl | Mainz ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dyfeisiwr, teipograffydd, engrafwr, peiriannydd, gof, eurych, mintmaster ![]() |
Tad | Friele Gensfleisch zur Laden ![]() |
Mam | Else Wirich ![]() |
Ganed Gutenberg yn ninas Mainz, yn fab ieuengaf marsiandiwr o uchel dras o'r enw Friele Gensfleisch zur Laden, a'i ail wraig Else Wyrich. Mae cofnod ei fod yn byw yn Strasbourg yn 1434, efallai'n gweithio fel gôf aur. Erbyn 1448, roedd wedi dychwelyd i Mainz, ac erbyn 1450 roedd wedi argraffu cerdd Almaeneg, hyd y gwyddys y gwaith cyntaf i'w agraffu ganddo. Argraffodd ei Feibl enwog yn 1455, gan gynhyrchu tua 180 copi. Cafodd ei alltudio o Mainz yn 1462, a symudodd i Eltville. Bu farw yn 1468, a chladdwyd ef yn eglwys Ffransiscaidd Mainz.
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Philip B. Meggs (9 Medi 1998). A History of Graphic Design (yn Saesneg). Wiley. t. 69. ISBN 978-0-471-29198-5.