Mainz
Dinas yn ne-orllewin yr Almaen a phrifddinas talaith ffederal Rheinland-Pfalz yw Mainz (Ffrangeg: Mayence). Saif ar afon Rhein, gyferbyn a'r fan lle mae afon Main yn ymuno â hi. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 200,234.
Math | dinas fawr, tref goleg, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Rhineland-Palatinate, prifddinas talaith yr Almaen |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Main, Mogons |
Poblogaeth | 220,552 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Nino Haase |
Cylchfa amser | CET, UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q22117180 |
Sir | Rheinland-Pfalz, Electorate of Mainz |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 97.73 km² |
Uwch y môr | 89 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Rhein, Afon Main |
Yn ffinio gyda | Mainz-Bingen, Wiesbaden, Groß-Gerau |
Cyfesurynnau | 49.9994°N 8.2736°E |
Cod post | 55116–55131 |
Pennaeth y Llywodraeth | Nino Haase |
Sefydlwyd caer Rufeinig Moguntiacum yma gan y cadfridog Drusus tua 13 CC. Datblygodd yn dref a chanolfan filwrol bwysig ac yn brifddinas talaith Germania Superior.
Cipiwyd y ddinas gan yr Alamanni yn 368 a chan y Fandaliaid ac eraill yng ngaeaf 406, pan rewodd afon Rhein a'u galluogi i groesi. Daeth Sant Boniface yn Archesgob cyntaf Mainz tua chanol yr 8g. Yn y Canol Oesoedd roedd Archesgobion Mainz yn bwerus iawn, ac yn cael eu hystyried yn ddirprwyon y Pab i'r gogledd o'r Alpau. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, meddiannwyd Mainz gan fyddin Ffrainc rhwng 1919 a 1930.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Amgueddfa Gutenberg
- Eglwys Gadeiriol Sant Martin
- Eglwys San Steffan
- Kurfürstliches Schloss (palas)
Pobl enwog o Mainz
golygu- Johann Gutenberg (c. 1398-1468), dyfeisydd argraffu a theip symudol
- Franz Bopp (1791-1867), ieithegwr cymharol
- Peter Cornelius (1824-1874), cyfansoddwr, bardd ac awdur
Dolenni allanol
golygu- (Almaeneg) (Saesneg) Gwefan swyddogol