John Oxenbridge
Difinydd a phregethwr anghydffurfiol o Sais a ymfudodd i Loegr Newydd yn ystod y cyfnod trefedigaethol oedd John Oxenbridge (30 Ionawr 1608 – 28 Rhagfyr 1674).[1]
John Oxenbridge | |
---|---|
Ganwyd | 30 Ionawr 1608, 1609 Daventry |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1674 Boston |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, gweinidog yr Efengyl |
Tad | Daniel Oxenbridge |
Mam | Katherine Harby |
Plant | Theodora Thatcher, Bathshua Oxenbridge |
Ganed yn Daventry, Swydd Northampton, Teyrnas Lloegr. Derbyniodd ei radd baglor yn y celfyddydau o Goleg Emmanuel, Caergrawnt, ym 1628, a'i radd meistr yn y celfyddydau o Neuadd Magdalen, Rhydychen (bellach yn rhan o Goleg Hertford), ym 1631. Fel tiwtor yn Neuadd Magdalen, lluniodd gorff o reolau ar gyfer gweinyddiaeth y coleg. Cafodd ei ddiswyddo ym Mai 1634, oherwydd ei ddiffyg parch tuag at awdurdodau'r brifysgol.
Dechreuodd Oxenbridge bregethu, ac aeth ar fordaith i Ynysoedd Bermwda. Dychwelodd i Loegr ym 1641 a bu'n gweinidogaethu ar grwydr a heb gysylltiad â'r un eglwys na chapel. Trigodd am rai misoedd yn Great Yarmouth, Norfolk, ac yna yn Beverley, Swydd Efrog. Gweithiodd yn weinidog yng Nghaerferwig, ar y ffin â Theyrnas yr Alban, pan gafodd ei benodi'n gymrawd gan Goleg Eton yn Hydref 1652. Fe'i diswyddwyd ym 1660, a dychwelodd i bregethu yng Nghaerferwig. Wedi iddo gael ei fwrw allan gan y Ddeddf Unffurfiaeth ym 1662, treuliodd rywfaint o amser yn India'r Gorllewin cyn ymsefydlu yn Boston, Massachusetts. Yno cafodd ei ordeinio'n weinidog yn yr Eglwys Gyntaf.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Michael P. Winship, "Oxenbridge, John (1608–1674)", Oxford Dictionary of National Biography (2004). Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2020.