John de Scotia, Iarll Huntingdon
Uchelwr Eingl-Albanaidd oedd John de Scotia (tua 1207 – 6 Mehefin 1237). Roedd yn fab i David o'r Alban, Iarll Huntingdon a'i wraig Maud o Gaer, merch Hugh de Kevelioc.
John de Scotia, Iarll Huntingdon | |
---|---|
Ganwyd | 1206 |
Bu farw | Mehefin 1237, 6 Mehefin 1237, 5 Mehefin 1237 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | pendefig, Magnate |
Tad | David of Scotland |
Mam | Matilda of Chester, Countess of Huntingdon |
Priod | Elen ferch Llywelyn |
Priododd John Elen ferch Llywelyn, merch Llywelyn Fawr, tua 1222. Daeth yn Iarll Huntingdon ym 1219 ar farwolaeth ei dad, ac ym 1232 daeth yn Iarll Caer, gan etifeddu'r teitl gan ei ewythr Ranulph de Blondeville.
Ni chafodd John ac Elen blant, ac wedi iddo farw, prynwyd Iarllaeth Caer gan y brenin Harri III, a'i rhoddodd i'w fab, Edward.
Pendefigaeth Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David o'r Alban |
Iarll Huntingdon 1219–1237 |
Olynydd: Diflanedig |