Elen ferch Llywelyn
Merch Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru, oedd Elen ferch Llywelyn (tua 1206–1253). Nid oes sicrwydd hollol, ond credir mai Siwan, gwraig Llywelyn a merch John, brenin Lloegr, oedd ei mam. Cyfunai felly waed brenhinoedd a thywysogion Gwynedd, sef llinach Aberffraw, a llinach y Plantageniaid ynddi. Cofnodir ei henw mewn dogfennau Lladin fel Elena a Helen.
Elen ferch Llywelyn | |
---|---|
Ganwyd | 1218, 1207 |
Bu farw | 6 Rhagfyr 1253 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Llywelyn Fawr |
Mam | y Dywysoges Siwan |
Priod | John de Scotia, Iarll Huntingdon, Robert de Quincy |
Plant | Q61963721, Joan de Quincy, Hawise de Quincy |
Llinach | Llinach Aberffraw |
Bywgraffiad
golyguCymharol ychydig a wyddys amdani. Mae'r cofnod cynharaf, sy'n dyddio o 1221, yn ymwneud ag achos cyfreithiol gan Ystrwyth (Instructus), un o glercod Llywelyn, i amddiffyn hawl Elen ar ystâd o dir yn Wellington, Swydd Amwythig.[1]
Priododd Elen John de Scotia, Iarll Caer tua 1222.[2] Gan fod Iarllaeth Caer yn sefyll rhwng Gwynedd a theyrnas Lloegr roedd hyn yn symudiad pwysig. Un o dystion y cytundeb briodas ffurfiol oedd Ednyfed Fychan, distain Gwynedd.[3] Ni fu ganddynt blant, a bu ef farw yn ddeg ar hugain oed ym 1237.
Ail-briododd Elen a Syr Robert de Quincy, mab Iarll Caerwynt yn 1237.[4] Cawsont ferch, Hawise.
Yn y cofnodion Albanaidd, ceir cofnod am "Helen" ferch "Llywelyn o Gymru" a briododd y Mormaer Maol Choluim II, Iarll Fife, ac wedi ei farwolaeth ef a ail-briododd a Domhnall I, Iarll Mar. Fodd bynnag, ymddengys nad Elen ferch Llywelyn oedd hon, oherwydd ni fu Maol Chaluim II farw tan 1266, tra mae cofnod o farwolaeth Elen ym 1253 (cyn 24 Hydref).[4]