Newyddiadurwr ac awdur o Sweden yw Pär-Ola Jonas Jonasson (ganwyd Per Ola Jonasson ar y 6 Gorffennaf 1961), sy'n fwyaf adnabyddus fel awdur y nofel The Hundred-Year-Old Man Who Climbed Out the Window and Disappeared.[1]

Jonas Jonasson

Bywyd personol golygu

Cafodd Jonasson ei eni a'i fagu yn Växjö yn ne Sweden, yn fab i yrrwr ambiwlans a nyrs.[2] Ar ôl astudio Swedeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Gothenburg, bu Jonasson yn gweithio fel newyddiadurwr i bapur newydd o Växjö, Smålandsposten, ac i'r tabloid Swedaidd Expressen, lle y bu tan 1994. Yn 1996, sefydlodd gwmni cyfryngau, OTW, a dyfodd i 100 o weithwyr. Peidiodd â gweithio yn 2003, ar ôl cael dwy lawdriniaeth gefn mawr a chael ei orweithio. Yn ddiweddarach, gwerthodd ei gwmni. Yn 2007, cwblhaodd ei lyfr cyntaf "The Hundred-Year-Old Man Who Climbed Out the Window and Disappeared". Fe'i cyhoeddwyd yn Sweden yn 2009. Ers 2010, mae Jonas Jonasson wedi bod yn byw gyda'i fab ar ynys Gotland yn Sweden.

Gwobrau golygu

  • Gwobr Llyfrwerthwyr Sweden (2010).
  • Gwobr Arloeswr yr Almaen (M-Pionier Preis) gan Mayersche Buchhandlung (2011).
  • Gwobr Audiobook Daneg (2011).
  • Prix Escapades (2012).

Llyfryddiaeth golygu

Cafodd nofel gyntaf Jonasson llwyddiant byd-eang. Y mae'n adrodd stori'r anturiaethau anhygoel ym mywyd dyn can mlwydd oed sy'n dianc o gartref henoed. Fe'i cyfieithwyd i ryw 35 o ieithoedd, gan werthu dros filiwn o gopïau yn yr Almaen a thua 3.5 miliwn ledled y byd:

  • Hundraåringen som klev ut genom fönstret och försvann
  • The Hundred-Old-Old Man Who Climbed Out of the Window and Disappeared

Rhyddhawyd ail nofel Jonasson ar 25 Medi 2013, am blentyn amddifad o Soweto sydd, ar hap, yn dod yn rhan o wleidyddiaeth ryngwladol:

  • Analfabeten som kunde räkna
  • The Girl Who Saved the King of Sweden

Rhyddhawyd trydedd nofel Jonasson ar 23 Medi 2015, sy'n dechrau gyda chyfarfod siawns rhwng clerc desg gwesty, cyn-offeiriad, a charcharor newydd ei ryddhau:

  • Mördar-Anders och hans vänner (samt en och annan ovän)
  • Hitman Anders and the Meaning of it All

Cyhoeddwyd pedwaredd nofel Jonasson, yn 2018.[3] Y mae'n ddilyniant i'w nofel gyntaf:

  • Hundraettåringen som tänkte att han tänkte för mycket
  • The Accidental Further Adventures of the Hundred-Year-Old Man

Cafodd ei bumed nofel ei rhyddhau yn 2020/2021:

  • Hämnden är ljuv AB
  • Sweet Sweet Revenge Ltd.

Addasiad Ffilm golygu

Addaswyd ei nofel gyntaf i mewn i ffilm yn 2013, a elwir The Hundred-Year-Old Man Who Climbed Out of the Window and Disappeared. Cafodd y ffilm comedi hon ei chyd-gynhyrchu'n rhyngwladol, a chyfarwyddwyd gan Felix Herngren. Dangosir y ffilm yn gyntaf yn Gala Arbennig Berlinale yn 64ed Gŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin.[4] Rhyddhawyd y ffilm ym mwy na 40 gwlad, a elwodd dros US$50 miliwn, sef trydedd ffilm fwyaf Swedeg ar y pryd, tu ôl i The Girl With the Dragon Tattoo (Män som hatar kvinnor) ac The Girl Who Played with Fire (Flickan som lekte med elden).[5] Cafodd y ffilm ei enwebu am Gwobr yr Academi ar gyfer Colur y Gwallt Gorau.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Dalya Alberge, "Swedish bestseller has the last laugh", The Observer, 4 March 2012.
  2. Angela Levin, "Jonas Jonasson: My 100-year-old hero, and the secret of happiness", The Telegraph, 9 July 2012. Retrieved 26 September 2012.
  3. "Another book on its way | Jonas Jonasson". www.jonasjonasson.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-12-24.[dolen marw]
  4. "Hundraåringen som klev ut genom fönstret och försvann". Berlinale. Cyrchwyd 17 April 2014.
  5. "Nytt rekord för "Hundraåringen" DN.SE". 23 July 2014. Cyrchwyd 4 December 2016.
  6. Ford, Rebecca (14 January 2016). "Oscar Nominations: The Complete List". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 14 January 2016.