Jonathan Goodwin
Dihangwr a styntiwr o Gymro yw Jonathan Goodwin (ganwyd 20 Chwefror 1980). Yn Hydref 2021 cafodd anafiadau difrifol wrth ymarfer am stynt ac ymddeolodd o'i yrfa yn perfformio campau dianc.
Jonathan Goodwin | |
---|---|
Ganwyd | 20 Chwefror 1980 Hwlffordd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | perfformiwr stỳnt, dihangwr |
Gwefan | http://thedaredevil.com/ |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywyd cynnar
golyguMagwyd Goodwin yn Robeston Wathen, Sir Benfro, lle mae ei rieni yn parhau i fyw.[1]
Gyrfa
golyguCychwynodd wneud fideos 'stynt' ar YouTube a dangoswyd rhain yn ddiweddarach ar Channel 4.[1]
Ymddangosodd ar deledu am y tro cyntaf ar y gyfres Dirty Tricks ar Channel 4 ac mae wedi ymddangos wedyn yn y rhaglenni teledu The Seven Stupidest Things to Escape From, a Deathwish Live. Ar y Discovery Channel, ymddangosodd ar One Way Out ac How Not to Become Shark Bait, lle caniataodd iddo i gael ei ymosod gan siarc riff Caribïaidd. Ymddangosodd hefyd mewn pennod o raglen Channel 4 Balls of Steel gyda'i dad yn ei helpu gyda stynt.
Ar 11 Medi 2012, cyhoeddwyd y byddai Goodwin yn ymddangos yn ei gyfres ei hun ar sianel Watch (UKTV) o'r enw The Incredible Mr. Goodwin. Roedd y sioe yn cynnwys amrywiaeth eang o styntiau, o ddringo nendyrau heb raff i "plancio eithafol", a ddarlledwyd yn gynnar yn 2013. Roedd hefyd yn cael ei ddangos ar Dave, UKTV, ac ar BBC America fel Dangerman: The Incredible Mr. Goodwin yn dechrau mis Gorffennaf 2013.[2]
Ar 9 Mawrth 2013 ymddangosodd ar The Jonathan Ross Show a pherfformiodd y stynt o orwedd ar hoelen sengl, a torrwyd breezeblock ar ei frest gyda gordd.
Daeth Goodwin i sylw'r cyhoedd pan aeth stynt Cheating the Gallows o'i le yn fyw ar deledu cenedlaethol ac fe'i crogwyd. Goroesodd y digwyddiad, gan ddioddef dim ond mân losgiadau rhaff. Mae rhai o gampau Goodwin yn cynnwys, cael ei gloi mewn blwch gyda 200,000 o wenyn, ei osod mewn concrit, ei llosgi wrth stanc, ei selio mewn bag gwactod aerdyn, wedi'i lenwi â gwenyn a'i wnïo i mewn i fuwch farw i enwi dim ond rhai.
Ymddangosodd Goodwin mewn cyfres deg rhan ar y Discovery Channel ym mis Ebrill 2008, One Way Out lle perfformiodd nifer o ddihangiadau llwyddiannus gan gynnwys cael ei gloi mewn blwch gyda 200,000 o wenyn a dianc o graen wedi ei hongian 30 troedfedd uwchben y ddaear.
Yn Hydref 2021, cafodd Goodwin ddamwain oedd bron yn angheuol, tra'n ymarfer ar gyfer stynt i raglen America's Got Talent: Extreme. Bwriad y stynt oedd dianc o siaced gaeth tra'n hongian 30 troedfedd uwchben y ddaear rhwng dau gar oedd ar dân.[3] Gollyngwyd y ceir yn rhy gynnar, gan achosi i Goodwin gael ei ddal rhyngddynt cyn disgyn.[4][5][6][7] Dioddefodd losgiadau trydedd radd, torrodd esgyrn a torrodd fadruddyn ei gefn. O ganlyniad, mae'n annhebygol o gerdded eto ac yn gorfod defnyddio cadair olwyn.[8]
Bywyd personol
golyguMae Goodwin wedi ysgaru ac erbyn hyn wedi dyweddio a'r actores Amanda Abbington.[8] Roedden nhw wedi bod yn ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol ers degawd. Wedi i Abbington wahanu o Martin Freeman, gwnaeth y ddau gyfarfod am y tro cyntaf yn Vienna. O fewn 30 munud, gofynnodd Goodwin i'w phriodi.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Pembroke man’s scorpion stunt halted , WalesOnline, 21 Mawrth 2010. Cyrchwyd ar 15 Ebrill 2019.
- ↑ BBC America
- ↑ "Britain's Got Talent star Jonathan Goodwin paralysed". BBC News (yn Saesneg). 4 Mai 2022. Cyrchwyd 4 Mai 2022.
- ↑ "Actress Amanda Abbington recalls how escapologist fiance Jonathan Goodwin nearly died twice when stunt went wrong". Sky News (yn Saesneg). 4 Mai 2022. Cyrchwyd 4 Mai 2022.
- ↑ "AGT: Extreme Contestant Jonathan Goodwin Hospitalized After Daredevil Stunt Goes Wrong". People. October 15, 2021. Cyrchwyd 17 Hydref 2021.
- ↑ Seemayer, Zach (17 Hydref 2021). "'AGT: Extreme': Production Halted After Contestant Injured By Stunt". Entertainment Tonight. Cyrchwyd October 18, 2021.
- ↑ Bullock, D.M. (15 Hydref 2021). "Jonathan Goodwin Seriously Injured in Stunt Gone Wrong at 'AGT: Extreme' Rehearsal, Terrifying 911 Call Reveals". Breaking Daily News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-27. Cyrchwyd 20 Hydref 2021.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 "Britain's Got Talent star Jonathan Goodwin paralysed". BBC News. 3 Mai 2022.