Hwlffordd

tref yn Sir Benfro

Tref farchnad a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Hwlffordd[1][2] (Saesneg: Haverfordwest). Lleolir pencadlys Sir Benfro yn y dref. Mae gan ardal adeiledig Hwlffordd y boblogaeth fwyaf yn y sir, gyda phoblogaeth o 15,388 (amcan) yn 2020.[3] Mae maestrefi'r dref yn cynnwys Prendergast, Albert Town ac ardaloedd preswyl a diwydiannol Withybush.

Hwlffordd
Y Stryd Fawr yn Hwlffordd
Mathtref farchnad, cymuned, tref sirol Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,107 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Cleddy Wen Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAberdaugleddau, Penfro Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8011°N 4.9694°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000941 Edit this on Wikidata
Cod OSSM955155 Edit this on Wikidata
Cod postSA61, SA62 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auHenry Tufnell (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Daw'r enw "Hwlffordd", mae'n debyg, o'r enw Saesneg Haverfordwest.[4] Ystyr Haverford, neu Harford ar lafar gwlad, yw 'rhyd y bychod gafr'. Ychwanegwyd yr elfen -west tua'r 15g er mwyn osgoi dryswch gyda Henffordd.[4]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[6]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Hwlffordd (pob oed) (12,042)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hwlffordd) (1,682)
  
14.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hwlffordd) (8292)
  
68.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Hwlffordd) (1,974)
  
36.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Ymwelodd Gerallt Gymro â Hwlffordd yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Cafodd Waldo Williams, yr actor Christian Bale a'r cerddor Gruff Rhys eu geni yn y dref.

Adeiladau a chofadeiladau

golygu

Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Hwlffordd ym 1972. Am wybodaeth bellach gweler:

Chwaraeon

golygu

Mae clwb pêl-droed y dref yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru, sef Sir Hwlffordd

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 10 Tachwedd 2021
  3. City Population; adalwyd 10 Tachwedd 2021
  4. 4.0 4.1 "Yr iaith Saesneg ac enwau lleoedd Cymru". 2014. Cyrchwyd 2020-10-06.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]