Jonathan Winters
Digrifwr ac actor Americanaidd oedd Jonathan Harshman Winters III (11 Tachwedd 1925 – 11 Ebrill 2013).[1]
Jonathan Winters | |
---|---|
Ganwyd | Jonathan Harshman Winters III 11 Tachwedd 1925 Dayton |
Bu farw | 11 Ebrill 2013 Montecito |
Label recordio | Columbia Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, actor llais, sgriptiwr, llenor, arlunydd, golygydd ffilm, digrifwr |
Adnabyddus am | The Smurfs, The Smurfs 2, The Flintstones |
Prif ddylanwad | Irwin Corey |
Tad | Jonathan Harshman Winters |
Mam | Alice Kilgore Rodgers |
Priod | Eileen Schauder |
Gwobr/au | Gwobr Mark Twain am Hiwmor Americanaidd, Grammy Award for Best Comedy Album, Gwobr Primetime Emmy am Actor Cefnogol Eithriadol mewn Cyfres Gomedi, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Grammy Award for Best Children's Music Album |
Gwefan | http://www.jonathanwinters.com |
Ganwyd yn Dayton, Ohio, yn unig blentyn. Ymunodd â Chorfflu'r Môr-filwyr yn 17 oed a gwasanaethodd am ddwy flynedd yn ne'r Cefnfor Tawel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dychwelodd i Ohio a mynychodd Athrofa Celfyddyd Dayton, a phriododd ei gyd-fyfyriwr Eileen Schauder ym 1948. Cychwynnodd ei yrfa ar radio, a symudodd i Ddinas Efrog Newydd i berfformio comedi.
Roedd Winters yn un o arloeswyr comedi ar ei sefyll Americanaidd yn y 1950au. Yn hytrach na dweud jôcs traddodiadol bu'n defnyddio arddull "llif ymwybod", gydag elfen swreal i'w hiwmor. Roedd yn berfformiwr bywiog oedd yn britho ei ymsonion gydag effeithiau sŵn ac ystumiau wynebol. Roedd ganddo ddawn am ddynwared a chreu cymeriadau difyfyr.[2] Ymhlith ei ffilmiau mae It’s A Mad, Mad, Mad, Mad World (1963), ac ymddangosodd ar deledu yn Mork & Mindy (1978–82).
Roedd ganddo anhwylder deubegwn a bu'n dioddef o waeleddau nerfol.[3] Cafodd ddau blentyn gyda'i wraig, Eileen, a fu farw yn 2009. Bu farw Jonathan Winters yn 87 oed yn ei gartref ym Montecito, Califfornia, yn 2013.[4][5]
Enillodd Wobr Mark Twain am Hiwmor gan Ganolfan Kennedy ym 1999.[2] Dywedodd y cyflwynydd sioe sgwrs Jack Parr amdano: "bwys am bwys, y dyn mwyaf ddoniol yn fyw".[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Grimes, William (12 Ebrill 2013). Jonathan Winters, Unpredictable Comic and Master of Improvisation, Dies at 87. The New York Times. Adalwyd ar 23 Ebrill 2013.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Obituary: Jonathan Winters. The Daily Telegraph (14 Ebrill 2013). Adalwyd ar 21 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Buerger, Megan (12 Ebrill 2013). Jonathan Winters, comedian behind memorable characters on late-night TV, dies at 87. The Washington Post. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Dagan, Carmel (12 Ebrill 2013). Comedian Jonathan Winters Dead at 87. Variety. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Byrge, Duane (12 Ebrill 2013). Comedian Jonathan Winters Dies at 87. The Hollywood Reporter. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Jonathan Winters. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Jonathan Winters ar wefan Internet Movie Database