Jonsi
Rhaglen radio oedd Jonsi a ddarlledwyd ar BBC Radio Cymru rhwng 2.00 a 5.00 y prynhawn, Llun i Gwener. Hyd at Hydref 2008 fe'i ddarlledwyd rhwng 8.30 a 10.30 y bore, Llun i Gwener. Enwyd y rhaglen ar ôl y cyflwynydd, Eifion Jones.
Math o gyfrwng | rhaglen radio |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
- Am y cerddor o Wlad yr Iâ, gweler Jónsi.
Jonsi yn gadael Radio Cymru
golyguAr 21 Hydref, 2010 cyhoeddwyd fod Eifion Jones wedi gadael ei swydd gyda'r BBC a bod Geraint Lloyd yn cymryd ei le. Fodd bynnag, ni roddwyd esboniad pam ei fod yn gadael a gwrthododd y BBC gadarnhau neu wadu fod ei ymadawiad yn ymwneud â chwyn a wnaed yn ei erbyn.[1] Ar 22 Hydref, 2010 cyhoeddodd Golwg 360 mai cydweithwraig fenywaidd a wnaeth gwyn am sylw rhywiol a wnaeth Jones iddi. Dywedwyd ei fod wedi ei wahardd o'i waith am bythefnos tra bod Wendy Rees, y pennaeth ym Mangor yn ymchwilio i'r mater.[2] Serch hynny, mae Jones yn gwadu'r honiad yn llwyr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Jonsi wedi gadael Radio Cymru", BBC Newyddion. 21-10-2010. Adalwyd ar 22-10-2010
- ↑ "Jonsi wedi gorfod mynd oherwydd cwyn"[dolen farw], Golwg 360. 22-10-2010. Adalwyd ar 22-10-2010
Dolenni allanol
golygu- Safle Jonsi ar wefan BBC Cymru Archifwyd 2013-07-07 yn archive.today