Geraint Lloyd

Cyflwynydd radio o Gymro

Darlledwr o Gymro yw Geraint Lloyd (ganwyd 9 Ionawr 1959) a fu'n gyflwynydd ar Radio Ceredigion ac yna BBC Radio Cymru rhwng 1997 a 2022.

Geraint Lloyd
Ganwyd9 Ionawr 1962 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd radio Edit this on Wikidata

Ganwyd Geraint yn Lledrod, ger Aberystwyth, Ceredigion a mynychodd Ysgol Gynradd Lledrod ac yna Ysgol Uwchradd Tregaron. Yn ddyn ifanc roedd yn ymwneud a'r byd ralïo ac aeth ymlaen i rasio 4x4s gan gynrychioli Cymru yn y gamp. Roedd hefyd yn gyfrifol am ddechrau clwb ralïo yn Aberystwyth yn yr 80au. Cyhoeddodd ei hunangofiant Geraint Lloyd - Y Dyn Tu Ôl i'r Llais yn 2013 (Y Lolfa, ISBN 978-1847717221).

Bu'n gweithio fel cyflwynydd ar Radio Ceredigion am bum mlynedd, cyn ymuno â BBC Radio Cymru ym mis Ebrill 1997. Cychwynnodd wrth gyflwyno sioe rhwng 2 a 5 bob prynhawn o'r wythnos, cyn symud i'r slot 10pm-12am yn 2012.

Yn Awst 2022, cyhoeddwyd y byddai ei sioe nosweithiol yn dod i ben. Dywedodd Lloyd ei fod yn "sioc... Doeddwn i ddim yn disgwyl e, doedd dim sôn dim wedi bod, dim trafod, dim ond dweud ‘Dyna ni, bydd y rhaglen yn gorffen dechrau Hydref’".[1]

Cyfeiriadau

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.