Jorge Icaza
Nofelydd, dramodydd, a diplomydd o Ecwador oedd Jorge Icaza Coronel (10 Gorffennaf 1906 – 26 Mai 1978).
Jorge Icaza | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mehefin 1906 Quito |
Bu farw | 26 Mai 1978 Talaith Loja |
Dinasyddiaeth | Ecwador |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd, llenor, actor, nofelydd |
Adnabyddus am | Huasipungo, El chulla Romero y Flores |
llofnod | |
Ganwyd yn Quito, prifddinas Ecwador. Cychwynnodd ar yrfa yn ysgrifennu i'r theatr, ond trodd at y nofel pan gafodd ei geryddu am y ddrama El dictador (1933). Mae ei nofel gyntaf, Huasipungo (1934), yn ymwneud â brwydr y bobloedd frodorol yn erbyn y tirfeddianwyr. Dyma enghraifft bwysig o lên y mudiad indigenismo, a bu'n codi cywilydd ar y dosbarth uchaf yn Ecwador yn sgil ei cyhoeddi. Ymhlith ei nofelau eraill, y mwyafrif ohonynt yn bortreadau realaidd o fywydau'r tlodion a'r brodorion, mae En las calles (1934), Media vida deslumbrados (1942), Huairapamushcas (1948), Seis veces la muerte (1954), ac El chulla Romero y Flores (1958).[1]
Yn y 1970au gwasanaethodd Icaza yn llysgennad Ecwador i Beriw a'r Undeb Sofietaidd. Bu farw yn Quito yn 71 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Jorge Icaza. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2019.