Diplomyddiaeth

(Ailgyfeiriad o Diplomydd)

Y gelf ac ymarferiad o gynnal trafodaethau rhwng cynrychiolwyr grwpiau neu wladwriaethau gwahanol yw diplomyddiaeth. Gan amlaf mae'n cyfeirio at ddiplomyddiaeth ryngwladol, cysylltiadau rhyngwladol a gynhalir gan ddiplomyddion proffesiynol gyda golwg ar faterion heddwch, diwylliant, economeg, masnach, a rhyfel. Fel arfer cânt cytundebau rhyngwladol eu cyd-drafod gan ddiplomyddion cyn cefnogaeth gan wleidyddion cenedlaethol.

Sefydliad diplomyddol mwyaf y byd yw'r Cenhedloedd Unedig, a leolir yn Ninas Efrog Newydd.
Ger van Elk, Symmetry of Diplomacy, 1975, Groninger Museum.
Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.