José Manuel Briceño Guerrero
Llenor ac athronydd o Feneswela oedd José Manuel Briceño Guerrero (6 Mawrth 1929 – 31 Hydref 2014) sy'n nodedig am ei ymdriniaethau ag hunaniaeth ddiwylliannol yn America Ladin.
José Manuel Briceño Guerrero | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mawrth 1929 Apure |
Bu farw | 31 Hydref 2014 Mérida |
Dinasyddiaeth | Feneswela |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, ieithegydd clasurol, athronydd, ieithegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Y Wobr Genedlaethol am Lenyddiaeth |
Ganwyd yn nhalaith Apure yng ngorllewin Feneswela, yn ardal y llaneros, a chafodd ei fagu yno ac yn nhaleithiau Barinas a Lara. Mynychodd ysgol uwchradd yn Barquisimeto, Lara, cyn iddo hyfforddi'n athro ysgol uwchradd yn y brifddinas Caracas. Cychwynnodd ar ei yrfa yn 1952 yn addysgu'r ieithoedd Saesneg, Almaeneg, a Ffrangeg. Yn ddiweddarach fe ddysgodd Japaneg, Tsieineeg, a Phortiwgaleg.[1]
Astudiodd athroniaeth ac ieitheg. Aeth i Ffrainc i ddysgu Ffrangeg a diwylliant Ffrengig, a derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Fienna yn 1961. Aeth hefyd i'r Undeb Sofietaidd i astudio Marcsiaeth.[1] Gweithiodd yn academydd ym Mhrifysgol yr Andes, Mérida.
Ysgrifennodd nofelau dan y ffugenw Jonuel Brique, a nodweddir ei ffuglen gan arddull barddol ei thraethiad.[2]
Derbyniodd y Wobr Lenyddol Genedlaethol yn 1996.[2] Bu farw ym Mérida yn 85 oed.
Llyfryddiaeth
golygu- Triandáfila (1967). Cyhoeddwyd dan y ffugenw Jonuel Brique.
- Holadios (1984). Cyhoeddwyd dan y ffugenw Jonuel Brique.
- Europa y América en el pensar mantuano (Caracas: Monte Avila, 1981).
- El laberinto de los tres minotauros (1996).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Sbaeneg) "Ha muerto el maestro José Manuel Briceño Guerrero", El Impulso (1 Tachwedd 2014). Adalwyd ar 4 Medi 2019.
- ↑ 2.0 2.1 Mark Dinneen, "Briceño Guerrero, José Manuel" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 86.