Goruchwylydd locomotifau Rheilffordd y Great Western oedd Joseph Armstrong (21 Medi 18165 Mehefin 1877), olynydd i Daniel Gooch.

Joseph Armstrong
Ganwyd21 Medi 1816 Edit this on Wikidata
Bewcastle Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mehefin 1877 Edit this on Wikidata
Matlock Bath Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpeiriannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ganwyd Joseph Armstrong yn Bewcastle, Cumbria ym 1816. Roedd yn yrrwr trên ar Reilffordd Stockton a Darlington a Rheilffordd Lerpwl a Manceinion. Erbyn 1845 roedd yn oruchwylydd locomotifau i reilffyrdd Amwythig a Birmingham ac Amwythig a Chaer sydd wedi yno. Daethant yn rhan o Reilffordd y Great Western ym 1854, a daeth Armstrong yn oruchwylydd locomotifau adran ogleddol y rheilffordd. Ar ôl ymddiswyddiad Gooch, aeth i Swindon, yn brif oruchwylydd. Ym 1864 aeth Gwaith Swindon o fod yn weithdy trwsio i ffatri cynhyrchu. Adeiladwyd tua 600 o locomotifau, 2,000 o gerbydau i deithwyr a 10,000 o wagenni rhwng 1869 a 1877.

Roedd yn bregethwr Methodist Wesleyaidd, a chefnogodd yr Institiwt Mecanyddion a Chymdeithas Cronfa'r Cleifion ymysg eraill. Agorwyd pwll nofio ar gyfer gweithwyr Gwaith Rheilffordd Swindon ym 1869 ac ysbyty iddynt ym 1871.

Bu farw Armstrong ym 1877. Prynwyd bad achub ar gyfer yr RNLI yn Cadgwith, Cernyw yn gofeb iddo.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan swindonweb". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-23. Cyrchwyd 2016-07-04.