Agor y brif ddewislen

Swydd seremonïol yng Ngogledd-orllewin Lloegr yw Cumbria. Ei chanolfan weinyddol yw Caerliwelydd. Mae'r sir yn cynnwys Ardal y Llynnoedd gyda'r mynyddoedd uchaf yn Lloegr.

Cumbria
Math Swyddi seremonïol Lloegr, non-metropolitan county Edit this on Wikidata
Prifddinas Caerliwelydd Edit this on Wikidata
Poblogaeth 499,858 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gogledd-orllewin Lloegr, Lloegr Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 718,247.24 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Dumfries a Galloway, Northumberland, Roxburgh, Ettrick and Lauderdale, Swydd Durham, Swydd Gaerhirfryn, Gogledd Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 54.5°N 3.25°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E10000006 Edit this on Wikidata
GB-CMA Edit this on Wikidata

HanesGolygu

Yr un tarddiad sydd i'r enw 'Cumbria' â'r gair 'Cymru'; yn wir, yn yr ardal hon y siaradwyd Hen Gymraeg ddiwethaf yng ngwledydd Prydain ar wahân i Gymru a Chernyw[1] ac efallai Ystrad Clud yn yr Alban. Gair arall am yr iaith ar yr adeg hon yw Cymbrieg, sy'n air academaidd mewn gwirionedd. Mae'r cofnod cynharaf sydd ar glawr o'r gair Hen Saesneg Cumberland yn dyddio o 945; ei ystyr yw 'Tir y Cymry'.

 
Cumbria

Roedd Rheged, un o deyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd yn cynnwys y cyfan o'r ardal a adnabyddir heddiw fel Cumbria. Ymhlith y brenhinoedd Brythonig yr oedd Urien Rheged (canodd Taliesin iddo), Owain, Dyfnwal ab Owain, a Mael Coluim[angen ffynhonnell]. Yn y 7g, daeth o dan deyrnas Northumbria a'i arweinydd Ecgfrith.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaethGolygu

Rhennir y swydd yn chwe etholaeth seneddol yn San Steffan:

Pobl o CumbriaGolygu

CyfeiriadauGolygu

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Cumbria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato