Josiah Jones
emynydd Cymraeg yn yr Unol Daleithiau
Emynydd oedd Josiah Jones (4 Gorffennaf 1807 – 1887) a ymfudodd i Gomer, yn nhalaith Ohio yn America tua 1850.[1]
Josiah Jones | |
---|---|
Ganwyd | 4 Gorffennaf 1807 Llanbryn-mair |
Bu farw | 1887 Ohio |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
O blwyf Llanbrynmair, Powys, yn wreiddiol, gweithiodd ei grefft fel saer yn Gomer. Bu yn glerc y dre ac yn ysgrifennydd y capel yno am chwarter canrif. Ef yw awdur "O am Ysbryd i Weddio". Fe'i claddwyd ym mynwent Tawelfan, Gomer.[1]
Cyfeiriadau
golygu