Josie d'Arby
Mae Josie d’Arby (ganwyd Josephine Collins 3 Hydref 1972) yn actor, awdur, cyfarwyddwr, a chyflwynydd teledu Cymreig o Gasnewydd, Gwent. Mae hi wedi cyflwyno nifer o sioeau teledu poblogaidd. Ym 1999 hi oedd y fenyw ieuengaf erioed i gyflwyno sioe sgwrsio yng Ngwledydd Prydain, sef Josie ar Channel 5.[1]
Josie d'Arby | |
---|---|
Ganwyd | 3 Hydref 1972 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd teledu |
Gwefan | https://www.josiedarby.com/ |
Bywgraffiad
golyguCafodd Josie d'Arby ei eni a'i magu yng Nghasnewydd. Yn ei harddegau mynychodd ysgol drama Theatre Anna Scher yn Llundain cyn ennill lle yn RADA[2]
Gyrfa
golyguCychwynnodd gyrfa cyflwyno d'Arby yn ystod ei chyfnod fel myfyriwr yn RADA. Yn y 1990au cynnar, bu’n cyflwyno’r rhaglen SMart ar sianel Children’s BBC, a’i sioe ei hun, Josie, ar Sianel 5. Mae hi wedi cyflwyno nifer o raglenni proffil uchel gan gynnwys The Bigger Breakfast (ategiad i raglen The Big Breakfast) a Top of the Pops. Mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth fwy clasurol megis BBC Young Musician of the Year, BBC Canwr y Byd Caerdydd a Choir of the Year[3].
Ei rôl actio ddramatig amlwg gyntaf oedd fel WPC Jodie Finn, yn nrama gyfres y BBC, Merseybeat. Yn 2005, bu’n chware rhan Peally Maghti, un o gyflwynwyr y gyfres ddychanol Look Around You, a oedd yn dychanu rhaglenni teledu gwyddoniaeth o’r 1980au.
Mae wedi ymddangos ar raglen gomedi’r BBC Miranda.
Mae hi wedi gweithio ar y radio, fel cyd-gyflwynydd The Steve Wright Show ar BBC Radio 2 ac mae wedi cyflwyno nifer o raglenni dogfen i BBC Radio 4.
Yn Nhachwedd 2011, ysgrifennodd a chyfarwyddodd y ffilm comedi A Magpie in the Mirror.
Enillodd d'Arby gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am ei gwaith wrth gyflwyno rhaglen materion cyfoes ar gyfer ei chyfraniad i raglen y BBC Inside Out West.
Yn 2011 derbyniodd yr her o geisio dysgu Cymraeg mewn wythnos ar gyfer raglen S4C Cariad@iaith gan ddod yn ail yn y gystadleuaeth[4].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Josie d'Arby adalwyd 25 Ebrill 2017
- ↑ IDBM Josie d’Arby adalwyd 25 Ebrill 2017
- ↑ Songs of Praise - Josie d'Arby adalwyd 25 Ebrill 2017
- ↑ Actores yn fuddugol am ddysgu iaith adalwyd 25 Ebrill 2017