Gwleidydd a dyn busnes o Haiti oedd Jovenel Moïse (26 Mehefin 19687 Gorffennaf 2021) a fu'n Arlywydd Haiti o 2017 hyd at ei lofruddiaeth yn 2021.

Jovenel Moïse
Yr Arlywydd Jovenel Moïse (2019).
Ganwyd26 Mehefin 1968 Edit this on Wikidata
Trou-du-Nord Edit this on Wikidata
Bu farw7 Gorffennaf 2021 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Pétion-Ville Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHaiti Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Quisqueya
  • Collège Canado-Haïtien Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Haiti Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolHaitian Tèt Kale Party Edit this on Wikidata
PriodMartine Moïse Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of Brilliant Jade Edit this on Wikidata

Ganed yn Trou-du-Nord yng ngogledd ddwyrain Haiti. Symudodd ei deulu i'r brifddinas Port-au-Prince pan oedd Jovenel yn chwech oed, ac yno mynychodd y Lycée Toussaint Louverture a'r Centre Culturel du Collège Canado-Haïtien. Ym 1996 priododd â Martine Joseph, a chychwynnodd ar ei fenter gyntaf yn Port-de-Paix yn gwerthu darnau sbâr ar gyfer ceir. Dechreuodd hefyd dyfu bananas ar blanhigfa fechan, rhyw 25 erw. Ymhen amser, bu'n berchen ar blanhigfa 25 000 erw, ac enillodd y llysenw "Dyn Banana". Bu cynllun i allforio bananas i'r Almaen, ac i greu 3000 o swyddi, ond yn y pen draw dim ond dau gynhwysydd a allforiwyd a rhyw gannoedd o swyddi a grëwyd. Yn 2001 gweithiodd gyda'r cwmni Americanaidd Culligan i adeiladu ffatri dŵr yfed ar gyfer gogledd y wlad.[1]

Yn 2015 cafodd Moïse ei enwebu gan yr Arlywydd Michel Martelly i'w olynu yn ymgeisydd y blaid Tèt Kale ar gyfer yr arlywyddiaeth. Cafodd yr etholiad ei ohirio a'r canlyniadau eu herio sawl gwaith, ac o'r diwedd datganwyd Moïse yn enillydd y bleidlais a gynhaliwyd yn Nhachwedd 2016,[2] a fe'i urddwyd yn arlywydd ar 7 Chwefror 2017.[3] Bwriadai Moïse hyrwyddo amaethyddiaeth biodynamig, diwygio ynni, ac atynnu buddsoddiadau tramor i'r wlad. Yn 2020, cafodd ei gysylltu â chynllwyn i ladrata arian o gytundeb olew rhwng Haiti a Feneswela, ond mynnodd Moïse nad oedd ganddo ran yn y sgandal. Er i'w dymor yn swydd yr arlywydd ddod i ben, datganodd Moïse y byddai'n llywodraethu trwy ordinhad. Trodd y sefyllfa wleidyddol yn dreisgar, a gwrthdystiodd nifer o bobl yn erbyn Moïse gan ei alw'n unben.[1] Ar 7 Gorffennaf 2021, saethwyd yr Arlywydd Moïse yn farw, yn 53 oed, gan griw o ddynion a dorrodd i mewn i'w breswylfa yn Pétion-Ville, yn y bryniau ar gyrion Port-au-Prince.[4] Claddwyd ei gorff rhyw ddwy wythnos yn ddiweddarach yn Cap-Haïtien, yn agos i'w dref enedigol.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Jovenel Moïse, President of Haiti who oversaw a period of bitter conflict in his country – obituary", The Daily Telegraph (7 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 8 Gorffennaf 2021.
  2. (Saesneg) "Haiti: Jovenel Moise confirmed winner of presidential election", BBC (4 Gorffennaf 2017). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 8 Gorffennaf 2021.
  3. "Arlywydd newydd Haiti yn addo cyflwyno “gwelliannau go iawn”", Golwg360 (7 Chwefror 2017). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 8 Gorffennaf 2021.
  4. "Arlywydd Haiti wedi’i ladd yn ei gartref yn dilyn ansefydlogrwydd gwleidyddol", Golwg360 (7 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 8 Gorffennaf 2021.
  5. (Saesneg) "Haiti holds funeral for slain president Jovenel Moise", South China Morning Post (23 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 23 Gorffennaf 2021.