Joyce Mitchell Cook

Roedd Joyce Mitchell Cook (28 Hydref 19336 Mehefin 2014) yn athronydd Americanaidd. Roedd hi'r fenyw Americanaidd Affricanaidd gyntaf i dderbyn PhD mewn athroniaeth yn yr Unol Daleithiau. Ennill y gradd o Brifysgol Iâl, ac wedyn oedd y cynorthwydd dysgu benywaidd cyntaf yn y brifysgol. Aeth i ddysgu yng Ngholeg Wellesley, Coleg Connecticut, a Phrifysgol Howard . Gwasanaethodd am sawl blwyddyn fel dadansoddwr materion Affrica yn Adran y Wladwriaeth yn Washington, D.C.

Joyce Mitchell Cook
Ganwyd28 Hydref 1933 Edit this on Wikidata
Sharon, Pennsylvania Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mehefin 2014 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
Galwedigaethathronydd, academydd, academydd, ymgyrchydd dros hawliau merched Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Howard Edit this on Wikidata

Cafodd Cook ei geni yn Sharon, Pennsylvania, fel un o'r 12 o blant Parchedig Isaac William Mitchell, Sr.[1] a'i wraig Mary Belle Christman Mitchell[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cook, Joyce Mitchell – Oxford African American Studies Center
  2. "Dr. Joyce Mitchell Cook". The Herald (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2015.