Coleg Bryn Mawr
Coleg Americanaidd i ferched ydy Coleg Bryn Mawr (Saesneg: Bryn Mawr College); caiff ei ddisgrifio fel "coleg y celfyddydau rhyddfrydol". Mae wedi'i leoli ym Mryn Mawr, yn nhalaith Pennsylvania oddeutu 10 milltir i'r gorllewin o Pennsylvania yn Unol Daleithiau America.
Math | prifysgol, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw, women's college, mynwent ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Bryn Mawr, Dolgellau ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Seven Sisters ![]() |
Lleoliad | Bryn Mawr ![]() |
Sir | Lower Merion Township ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 40.02639°N 75.31361°W ![]() |
Cod post | 19010 ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | M. Carey Thomas ![]() |
Cymuned Bryn Mawr
golyguYn ôl cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae i'r ardal hon arwynebedd o 0.6 milltir sgwar,[1] ac roedd yno boblogaeth o 21,485 gyda chyfartaledd incwm y bobl hyn yn $110,956.[2][3] sy'n ei gwneud yn un o ardaloedd mwyaf cefnog yr UDA.
Sefydlu'r Coleg
golyguDaw enw'r coleg a'r dref o'r Gymraeg. Cyflwynodd William Penn y tir i Rowland Ellis yn y 1680au; enw fferm Rowland Ellis yn Nolgellau oedd "Bryn Mawr". Mae Rowland Ellis, ei deulu a'r cyfnod yn cael ei ddisgrifio gan Marion Eames yn ei nofel hanesyddol Y Stafell Ddirgel. Arferai'r coleg i arddel cysylltiad cry gyda chrefydd y sefydlwyr hyn, sef Crynwriaeth, ond erbyn 1893 roedd wedi'i sefydlu'n goleg amlgrefydd.
Coleg Bryn Mawr oedd y coleg cyntaf o'i bath i gynnig gradd uwch (gan gynnwys doethuriaeth) i ferched yn yr Unol Daleithiau.[4] Bu'r mathemategydd Almaenig Emmy Noether yma'n fyfyriwr ac yn ddarlithydd, ac yma y claddwyd ei gweddillion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bryn Mawr CDP, Pennsylvania (map)". Cyrchwyd 2007-04-18.[dolen farw]
- ↑ "Ithan Elementary School". Radnor Township School District. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-20. Cyrchwyd 2007-05-19.
- ↑ "Coopertown Elementary". Haverford Township School District. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-31. Cyrchwyd 2007-05-19.
- ↑ "A Brief History of Bryn Mawr College". brynmawr.edu. Cyrchwyd 2011-06-18.