Juan Benigno Vela
Gwleidydd rhyddfrydol a newyddiadurwr o Ecwador oedd Juan Benigno Vela (10 Gorffennaf 1843 – 24 Chwefror 1920).[1]
Juan Benigno Vela | |
---|---|
Ganwyd | 10 Gorffennaf 1844 Ambato |
Bu farw | 24 Chwefror 1920 Ambato |
Dinasyddiaeth | Ecwador |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, newyddiadurwr |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Juan Benigno Vela ar 10 Gorffennaf 1920 yn ninas San Juan de Ambato, yng nghanolbarth Ecwador, yn fab i'r Don Pío Vela Endara a Mercedes Hervas Hidalgo.. Aeth i Goleg Vicente León yn Latacunga ym 1859 i astudio dan y Don Simón Rodríguez a'r Dr Carlos Casares, ac yno bu'n gyfeillgar â Luis Felipe Borja. Wedi iddo dderbyn ei radd baglor, aeth i Brifysgol Quito ac ym 1867 enillodd deitl Abogado de la República (Cyfreithiwr y Weriniaeth).[1]
Gyrfa lenyddol
golyguGyda chefnogaeth ei dad bedydd, y Don Pedro Fermín Cevallos, ac un arall o feibion Ambato, Juan Montalvo, cychwynnodd Beningno Vela ar drywydd rhyddfrydol yn gynnar, a defnyddiodd grym ei eiriau i hyrwyddo'i achos. Ysgrifennodd erthyglau ar gyfer sawl papur newydd, gan gynnwys El Espectador, El Guante, ac El Combate, yn lladd ar ddrwg arferion yr Arlywyddion Gabriel García Moreno ac Ignacio de Veintemilla. Yn sgil y Gynhadledd Genedlaethol yn Ambato ym 1878, cyhoeddodd Benigno Vela ei ddatganiad gwleidyddol yn galw ar godi pedwar cerflun yn yr ystafell gyfarfod, yn portreadu Doethineb, Cyfiawnder, Gwyleidd-dra, a Rhyddid, a gawsant eu "treisio a'u sathru gan y rhai ffiaidd a fradychodd ewyllys yr Ecwadoriaid".[1]
Aeth yn ddall yn 34 oed, a chafodd ei ddilorni a'i watwar am hynny gan ei elynion. Roedd Vela yn benderfynol o ddal at ei waith, ac ysgrifennodd lythyr at y papur newydd El Guayas, gan ddweud:[1]
«No me quejo, por lo mismo, de la suerte que me ha cabido, ni tengo la ceguera como una gran desgracia; no lloro por ello tan amargamente como lloró el Divino Ciego de Albión, ni acuso a los insensatos que se han reído de mí, juzgando que Dios me ha castigado. No pido luz para mis ojos, reclamo luz para mi inteligencia.»
"Nid wyf yn cwyno am fy anffawd, ac nid oes dallineb gennyf fel trallod mawr; nid wyf yn crio amdano mor chwerw ag y gwnaeth Difinydd Dall Albion [hynny yw, John Milton, awdur "When I Consider How My Light is Spent"], ac nid wyf yn cyhuddo'r rhai ffôl sydd wedi chwerthin am fy mhen, gan farnu bod Duw wedi fy nghosbi. Nid wyf yn gofyn am olau er fy llygaid, rwyf yn mynnu golau er fy ngwybodaeth."
Gyrfa wleidyddol
golyguGwasanaethodd Benigno Vela yn Arolygydd Ysgolion yn nhalaith Tungurahua, a chyfrannodd ei holl gyflog at brynu gwerslyfrau a llyfrau nodiadau ar gyfer disgyblion tlawd. Gwasanaethodd hefyd yn Bennaeth Sifil a Milwrol ar ddinas Ambato yn ystod arlywyddiaeth gyntaf y Cadfridog Eloy Alfaro, yn Llywodraethwr Tungurahua, ac yn Seneddwr a Dirprwy mewn sawl cyngres. Fe'i penodwyd yn gadeirydd y comisiwn deddfwriaethol gan yr Arlywydd Alfaro.[1]
Diwedd ei oes
golyguBu farw Juan Benigno Vela ar 24 Chwefror 1920 yn ei ddinas enedigol, Ambato, yn 76 oed.