Juan Montalvo
Ysgrifwr o Ecwador yn yr iaith Sbaeneg oedd Juan Montalvo (13 Ebrill 1832 – 17 Ionawr 1889) sy'n nodedig am ei weithiau polemig rhyddfrydol ac am fod yn un o ryddieithwyr gwychaf llên America Ladin yn y 19g o ran ceinder ei arddull.
Juan Montalvo | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1832 Ambato |
Bu farw | 17 Ionawr 1889 Paris |
Dinasyddiaeth | Ecwador, Colombia |
Galwedigaeth | Myotonic dystrophy. Part II. A clinical study of 96 patients, llenor |
Priod | Clotilde Cerdá |
Ganed yn Ambato ar odre mynyddoedd yr Andes yng nghanolbarth Ecwador. Gweithiodd yn y gwasanaeth diplomyddol cyn iddo cyhoeddi ei ysgrifeniadau a oedd yn beirniadu llywodraeth y wlad.
Yn ei ysgrifau tanbaid mae'n lladd ar y ddau caudillo a arweiniodd Ecwador, yr Arlywyddion Gabriel García Moreno (1861–75) ac Ignacio de Veintemilla (1876–83). Cyhoeddodd ei waith yn gyntaf yn ei gyfnodolyn El cosmopolita (1866–69). Ysgrifennodd o blaid gwleidyddion rhyddfrydol, megis Eloy Alfaro Delgado, arweinydd y Blaid Ryddfrydol Radicalaidd a ddaeth i rym yn y 1890au. Un o'i brif bamffledi oedd La dictadura perpetua (1874), hortlyfr sydd yn ymosod yn ffyrnig ar unbennaeth geidwadol yr Arlywydd García Moreno. Llofruddiwyd García Moreno ar risiau'r Palas Cenedlaethol gan Faustino Rayo a rhyddfrydwyr ifainc eraill a ysbrydolwyd gan La dictadura perpetua. O ganlyniad, meddai Montalvo "fy ysgrifbin i, ac nid cleddyf Rayo, a wnaeth ei ladd". Anelodd Montalvo ei ddig nid yn unig at yr unben newydd, Veintemilla, ond hefyd at y rhyddfrydwyr cymedrol nad oedd o'r un farn wrthglerigiol.
Cafodd Montalvo ei alltudio o Ecwador yn 1879 ac aeth i fyw yn Ffrainc. Daeth yn enwog y tu hwnt i'w famwlad yn sgil cyhoeddi dwy gyfrol o ysgrifau dychanol, Catilinarias (1880) a Siete tratados (1882). Mae'r rhain yn ymdrin â themâu hanesyddol, moesol, athronyddol, a diwylliannol y tu hwnt i wleidyddiaeth, ac yn nodweddiadol o arddull byw a thymer Ramantaidd yr awdur. Disgrifiodd Montalvo ei hunan yn Gatholig ryddfrydol, a fe fu'n grediniwr ffyddlon hyd ddiwedd ei oes. Bu farw ym Mharis yn 56 oed.
Cesglid rhagor o ysgrifau yn y gyfrol Geometría moral, a gyhoeddwyd yn 1902 wedi ei farwolaeth. Ysgrifennodd hefyd ddilyniant i'r nofel glasurol Don Quixote gan Miguel de Cervantes, a gyhoeddwyd yn 1895 dan y teitl Capítulos que se la olvidaron a Cervantes.
Cyfeiriadau
golyguDarllen pellach
golygu- Enrique Anderson Imbert, El arte de la prosa en Juan Montalvo (Dinas Mecsico: El Colegio de México, 1948).
- Oscar Efrén Reyes, Vida de Juan Montalvo (Quito: Talleres Gráficos de Educación, 1943).
- Manuel Freire Heredia, Juan Montalvo (Forjadores de la Historia Ecuatoriana, 8) (Riobamba: Editorial Pedagógica "Centro", 1985).
- Antonio Sacoto, Juan Montalvo: El escritor y el estilista, 3ydd argraffiad (Quito: Sistema Nacional de Bibliotecas, 1996).
- Agustín L. Yerovi, Juan Montalvo, ensayo biográfico (Paris: Imprenta Sudamericana, 1901).