Julia Ward Howe
Ffeminist Americanaidd oedd Julia Ward Howe (27 Mai 1819 - 17 Hydref 1910) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel y bardd a sgwennodd eiriau "The Battle Hymn of the Republic", ymgyrchydd dros heddwch a swffragét.
Julia Ward Howe | |
---|---|
Ganwyd | Julia Ward 27 Mai 1819 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 17 Hydref 1910 Portsmouth |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | bardd, llenor, ymgyrchydd heddwch, cyfansoddwr caneuon, awdur geiriau, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Swydd | ymgyrchydd dros hawliau merched |
Adnabyddus am | Battle Hymn of the Republic |
Tad | Samuel Ward |
Mam | Julia Rush Cutler Ward |
Priod | Samuel Gridley Howe |
Plant | Laura E. Richards, Maud Howe Elliott, Florence Howe Hall, Henry Marion Howe, Julia R. Anagnos |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, 'Rhode Island Heritage Hall of Fame Women inductee' |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd ar 27 Mai 1819; bu farw yn Portsmouth ac fe'i claddwyd ym Mynwent Mount Auburn. Roedd Laura E. Richards a Maud Howe Elliott yn blant iddi. Hi oedd y pedwerydd o saith o blant. Roedd ei thad Samuel Ward III yn brocer stoc yn Wall Street, banciwr, ac yn Galfinydd llym.[1][2] Ei mam oedd y bardd Julia Rush Cutler, a oedd yn perthyn i Francis Marion, y "Swamp Fox" yn y Rhyfel Annibyniaeth America. Bu farw o'r diciâu pan oedd Howe yn bump oed.[3][4][5][6][7]
Y llenor
golyguMynychodd ddarlithoedd, astudiodd ieithoedd tramor, ac ysgrifennodd ddramâu. Roedd Howe wedi cyhoeddi traethodau ar Goethe, Schiller a Lamartine cyn iddi briodi yn y New York Review a'r Theological Review. Cyhoeddwyd Passion-Flowers yn ddienw ym 1853, sef blodeugerdd o gerddi personol ac fe'i hysgrifennwyd i'w gŵr wybod, a oedd yr adeg honno'n golygu papur newydd, sef yThe Commonwealth. Ymddangosodd ei hail gasgliad dienw, Words for the Hour, ym 1857. Aeth ymlaen i ysgrifennu dramâu fel Leonora, The World's Own, a Hippolytus.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Battle Hymn of the Republic.
Roedd rhai o gyhoeddiadau Howe yn cythruddo ei gŵr yn fawr, yn enwedig oherwydd y ffaith bod yn ei cherddi lawer bethau'n ymwneud â beirniadu rol menywod fel gwragedd, ei phriodas ei hun, a lle menywod mewn cymdeithas. Cynyddodd eu problemau nes o'r diwedd gwahanodd y ddau yn 1852.
Yr ymgyrchydd
golyguCafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu The Battle Hymn of the Republic ar ôl iddi hi a'i gŵr ymweld â Washington, DC, a chyfarfod ag Abraham Lincoln yn y Tŷ Gwyn yn Nhachwedd 1861. Yn ystod y daith, awgrymodd ei ffrind James Freeman Clarke ei bod yn ysgrifennu geiriau newydd ar dôn "John Brown's Body", a gwnaeth ar 19 Tachwedd.
Yn 1872 daeth yn olygydd Woman's Journal, cylchgrawn y swffragét a ddarllenwyd yn eang ac a sefydlwyd yn 1870 gan Lucy Stone a Henry B. Blackwell. Cyfrannodd at y cylchgrawn am ugain mlynedd. Yr un flwyddyn, ysgrifennodd Apêl at fenywiaeth ledled y byd, a elwir yn ddiweddarach yn Mother's Day Proclamation, a oedd yn gofyn i fenywod ledled y byd ymgyrchu dros heddwch y byd.
Yn 1881, etholwyd Howe yn llywydd y Gymdeithas er Hyrwyddo Menywod. Tua'r un pryd, aeth Howe ar daith yn annerch y torfeydd, o amgylch arfordir y Môr Tawel, a sefydlodd Century Club of San Francisco.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd. [8]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1998), 'Rhode Island Heritage Hall of Fame Women inductee'[9] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Julia Ward Howe Biography". Cyrchwyd 21 Ionawr 2014.
- ↑ RICHARDS, LAURA (1915). Celebration of Women Writers. HOUGHTON MIFFLIN COMPANY.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Julia_Ward_Howe. https://www.bartleby.com/library/bios/index8.html.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/ Anhysbys; Frances Willard (1893), Frances Willard; Mary Livermore, eds. (yn en), A Woman of the Century (1st ed.), Buffalo: Charles Wells Moulton, LCCN ltf96008160, OL13503115M, Wikidata Q24205103
- ↑ Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Julia Ward Howe". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Ward Howe". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Howe". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Ward Howe". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Ward Howe". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Ward Howe". "Julia Ward Howe".
- ↑ Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Julia Ward Howe". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Ward Howe". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Howe". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Ward Howe". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Ward Howe". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Ward Howe". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Ward Howe". "Julia Ward Howe".
- ↑ Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/julia-ward-howe/.
- ↑ https://www.womenofthehall.org/inductee/julia-ward-howe/.