Juliette Adam
Awdures a ffeminist o Ffrainc oedd Juliette Adam née Lambert (ynganiad Ffrengig: [ʒyljɛt adɑ̃]; 4 Hydref 1836 - 23 Awst 1936) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, bywgraffydd, awdur ysgrifau a bardd. Ei nofel fwyaf boblogaidd yw Païenne (1883)
Juliette Adam | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Juliette Lamber, Madame Adam, Mme La Messine, Comte Paul Vassili ![]() |
Ganwyd | Juliette Lambert ![]() 4 Hydref 1836 ![]() Verberie ![]() |
Bu farw | 23 Awst 1936 ![]() Callian ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, perchennog salon, nofelydd, bywgraffydd, awdur ysgrifau, bardd, golygydd ![]() |
Priod | Edmond Adam, Alexis La Messine ![]() |
Gwobr/au | Prix Auguste-Furtado, Prix Jules-Favre, Prix d'Académie ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Fe'i ganed yn Verberie, Oise, gogledd Ffrainc a bu farw yn Callian a'i chladdu ym Mynwent Père Lachaise, Paris. Bu'n briod i Edmond Adam ac yna i Alexis La Messine.[1][2][3][4][5][6]
Magwraeth a phriodasGolygu
Cofnododd ei phlentyndod, anhapus yn Le roman de mon enfance et de ma jeunesse (Cym. Trans, Llundain ac Efrog Newydd, 1902) lle soniodd fod ei rhieni'n ffraeo drwy'r amser.[7] Ond yn Paradoxes d'un docteur allemand (cyhoeddwyd yn 1860), mae'n nodi ei fod yn credu mewn hawliau merched. [8]
Yn 1852, priododd â meddyg o'r enw La Messina, a chyhoeddodd ym 1858 ei Idées antiproudhoniennes sur l'amour, la femme et le mariage (Syniadau Antiproudhonian ar Gariad, Menyw a Phriodas), yn amddiffyn Daniel Stern (llysenw Marie d'Agoult) a George Sand.[7] Ar ôl marwolaeth ei gŵr cyntaf yn 1867, priododd Juliette ag Antoine Edmond Adam (1816-1877), swyddog uchel yn yr heddlu yn 1870, a ddaeth yn seneddwr yn ddiweddarach.
LlenyddiaethGolygu
Sefydlodd y Nouvelle Revue yn 1879, a olygodd am wyth mlynedd, ac a reolai tan 1899. Cyhoeddodd ysgrifau gan Paul Bourget, Pierre Loti, a Guy de Maupassant yn ogystal â nofel Octave Mirbeau, Le Calvaire.
Galwodd am hawl menywod i fod yn dystion mewn gweithredoedd cyhoeddus a phreifat, ac am yr hawl i fenywod priod i gymryd cynnyrch eu llafur a chael gwared arno fel y mynnent.[9]
Daeth yn gyfaill agos i Yuliana Glinka, a oedd yn ymwneud â theosophi a'r ocwlt.
Llyfryddiaeth ddetholGolygu
- Idées antiproudhoniennes sur l’amour, la femme et le mariage, 1858
- Les provinciaux à Paris, yn Paris Guide 1868; cyfieithiad Saesneg: Paris for Outsiders 2016
- Laide, 1878
- Grecque, 1879
- Païenne, 1883
- Mes angoisses et nos luttes, Paris, A. Lemerre, 1907
- L'Angleterre en Egypte, Paris, 1922
AelodaethGolygu
Bu'n aelod o Ligue de la Patrie Française am rai blynyddoedd.
AnrhydeddauGolygu
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Prix Auguste-Furtado (1920), Prix Jules-Favre (1917), Prix d'Académie (1927) .
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11888074t; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays; tudalen: 12; cyfrol: 1. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index10.html.
- ↑ Rhyw: (yn mul) Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Dublin, Ohio: OCLC, OCLC 609410106, dynodwr VIAF 64000638, Wikidata Q54919, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11888074t; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays; tudalen: 12; cyfrol: 1. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11888074t; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays; tudalen: 12; cyfrol: 1.
- ↑ Dyddiad marw: Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays; tudalen: 12; cyfrol: 1.
- ↑ Man geni: Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays; tudalen: 12; cyfrol: 1.
- ↑ 7.0 7.1 Chisholm 1911.
- ↑ Galwedigaeth: Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays; tudalen: 12; cyfrol: 1. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Metz, Annie (Rhagfyr 2007). "Jeanne Schmahl et la loi sur le libre salaire de la femme". Bulletin du Archives du Féminisme (13). http://www.archivesdufeminisme.fr/ressources-en-ligne/articles-et-comptes-rendus/articles-historiques/metz-jeanne-schmahl-loi-libre-salaire-femme/. Adalwyd 2015-03-22.