Medr gorfforol sy'n ymwneud â thrin a thrafod gwrthrychau ac sy'n cael ei pherfformio gan jyglwr yw jyglo. Gallai gael ei berfformio at ddibenion hamdden, adloniant, celfyddyd neu chwaraeon.

Animeiddiad o raeadr tair pêl (hefyd yn cael ei adnabod fel 'Siteswap 3')
Jyglo (Luca Pferdmenges & Manuel Mitasch)
Jyglo (Luca Pferdmenges & Manuel Mitasch)

Y math mwyaf adnabyddus o jyglo yw taflu. Gall un neu nifer o wrthrychau gael eu taflu ar yr un pryd, gan ddefnyddio un neu sawl llaw. Mae jyglwyr yn aml yn cyfeirio at y gwrthrychau sy'n eu jyglo fel propiau.

Y propiau mwyaf cyffredin ar gyfer jyglo yw peli, clybiau neu fodrwyau. Bydd rhai jyglwyr yn defnyddio gwrthrychau mwy dramatig fel cyllyll, ffaglau tân a llifiau cadwyn. Gall y gair jyglo hefyd gyfeirio at fedrau eraill sy'n ymwneud â thrin propiau, fel diabolo, ffyn y diafol, poi, blychau sigar, jyglo cyswllt, hwpio, io-io, a thrin het.