Kaddish (cerdd)
Cerdd a ysgrifennwyd gan yr awdur bitnicaidd Allen Ginsberg yw "Kaddish", a adwaenir hefyd fel "Kaddish for Naomi Ginsberg 1894-1956", am ei fam Naomi a'i marwolaeth ar 9 Mehefin 1956.
Enghraifft o'r canlynol | cerdd |
---|---|
Awdur | Allen Ginsberg |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1961 |
Genre | barddoniaeth |
Cefndir
golyguDechreuodd Ginsberg gyfansoddi'r gerdd ym Mharis yn 1957 ac fe'i cwblhawyd yn Efrog Newydd yn 1959. Cyhoeddwyd y gerdd yn y casgliad Kaddish and Other Poems (1961)[1]
Nodiadau
golyguCyfeiria'r teitl, Kaddish, at alarnad Iddewig a genir wedi marwolaeth Iddew, ac sydd yn santeiddio enw Duw. Mae'r gerdd hir hon yn ymgais gan Ginsberg i alaru tranc ei fam ond hefyd i adlewyrchu ei deimlad o golled yn ei ymddieithrio oddi wrth ei grefydd enedigol. Ni cheir yr un cyfeiriad at farwolaeth yn y Kaddish traddodiadol, tra bo cerdd Ginsberg yn frith o synfyfyrion a chwestiynau am farwolaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Allen Ginsberg, Kaddish and Other Poems 1958–1960 (San Francisco: City Lights Books, 1961)