Bardd Americanaidd oedd Irwin Allen Ginsberg (yngenir/ˈɡɪnzbərɡ/) (3 Mehefin 19265 Ebrill 1997). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerdd 'Howl' (1956), a ddathlai ei ffrindiau a oedd yn aelodau o Genhedlaeth y Bitniciaid ac yn beirniadu'r hyn yr ystyriai fel grymoedd dinistriol materoliaeth a chydymffurfiaeth yn yr Unol Daleithiau.

Allen Ginsberg
GanwydIrwin Allen Ginsberg Edit this on Wikidata
3 Mehefin 1926 Edit this on Wikidata
Paterson, Newark Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 1997 Edit this on Wikidata
o canser yr afu Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd, East Village Edit this on Wikidata
Man preswylPaterson, East Village Edit this on Wikidata
Label recordioTransatlantic Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, bardd, llenor, hunangofiannydd, sgriptiwr, cerddor, athro, ffotograffydd, dyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg Brooklyn Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHowl Edit this on Wikidata
Arddullspoken word Edit this on Wikidata
MudiadCenhedlaeth y Bitniciaid, confessional poetry Edit this on Wikidata
TadLouis Ginsberg Edit this on Wikidata
PartnerPeter Orlovsky Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr, Gwobr Heddwch Cynghrair Atal Rhyfel, Gwobr Llyfr Cenedlaethol am Farddoniaeth, Medal Robert Frost, Torch Aur, John Jay Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://allenginsberg.org Edit this on Wikidata
llofnod
Delwedd:Allen Ginsberg signature.svg, Signature detail, Allen Ginsberg - Cosmopolitan Greetings (cropped).JPG

Fel nifer o'r ysgrifenwyr 'Beat' eraill, parhaodd ei ddylanwad trwy gyfnod gwrth-ddiwylliant y 60au a 70au gan ddod yn arwr i lawer o ysgrifenwyr, beirdd a cherddorion heddiw.[1][2][3][4]

Bywyd Cynnar

golygu

Ganwyd Allen Ginsberg i deulu Iddewig yn Newark, New Jersey, ac wedyn bu'n fyw fel plentyn yn nhref Paterson gerllaw. Yn ei arddegau ysgrifennodd llythyron i'r New York Times am faterion gwleidyddol a hawliau gweithwyr. Tra yn yr ysgol uwchradd dechreuodd darllen llyfrau Walt Whitman.[5]

Yn ôl y The Poetry Foundation, treuliodd Ginseberg rhai misoedd mewn ysbyty meddwl wedi iddo bledio'n wallgof mewn achos llys ar gyhuddiad o gael eiddo wedi'i dwyn.[6]

Yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Colombia cyflwynodd Ginsberg gan ei gyd-fyfyriwr Lucien Carr i nifer o ysgrifenwyr ifanc arbrofol yn cynnwys Jack Kerouac a William S. Burroughs. Fel rhan o'r grŵp yma fe ddaeth Ginsberg i fod yn un o sylfaenwyr y mudiad llenyddol avant garde Beat. Datblygodd y beirdd ac ysgrifenwyr Beat arddull newydd o ysgrifennu gan dorri'n rhydd o gyfyngiadau a chonfensiynau bywyd Americanaidd y cyfnod.

Mewn fflat yn Harlem (ardal Affro-Americaniadd Efrog Newydd) dywedodd Ginsberg wrtho gael ei Weledigaeth Blake – gan fynnu iddo glywed llais Duw wrth ddarllen gwaith y bardd William Blake. Wedyn eglurodd ni fu'r weledigaeth yn ganlyniad i ddefnyddio cyffuriau ond roedd am ail-greu'r teimladau trwy arbrofi gyda chyffuriau.[7]

Symudodd Ginsberg i San Francisco ac ym 1954 cyfarfu â Peter Orlovsky (1933–2010), a fu'n bartner iddo hyd ddiwedd ei fywyd.

 
Argraffiad cyntaf y gyfrol yr ymddangosodd 'Howl' ynddi yn 1956

Ym 1956 cyhoeddwyd ei waith enwocaf y gerdd Howl. Cafodd y llyfrau eu cipio gan yr heddlu ym 1957 a bu achos llys i wahardd y gwaith am iddo gynnwys sôn am gariad hoyw ar adeg pab fu'n anghyfreithlon. Bu'r cyhoeddusrwydd i 'Howl' yn gymorth mawr i ennill diddordeb i'r gwaith a chynyddu gwerthiant..[1]

Gwelais feddyliau gorau fy nghenhedlaeth wedi’u dinistrio gan wallgofrwydd
newynog lloerig noeth
yn llusgo eu hunain trwy strydoedd duon y wawr yn chwilio am ffics blin
hipsters pen-angylaidd ar dân am y cysylltiad nefol hynafol i’r dynamo serennog ym mheirianwaith y nos...
...Cyfieithiad llinellau agoriadol Howl

Ym 1957 symudodd i Baris i fyw mewn fflat rhad uwchben bar yn 9 rue Gît-le-Coeur. Ymunodd William Burroughs ac ysgrifenwyr Beat eraill ac fe enillodd y fflatiau'r enw 'Beat Hotel'. Yma ysgrifennodd Ginseberg ei gerdd epig Kaddish. Yn ddiweddarach ymwelodd â William Burroughs yn Tangiers, Moroco a gyda Jack Kerouac gynorthwyodd Burroughs gyhoeddi ei waith enwog The Naked Lunch.

Yn ystod 1962-3 teithiodd Ginsberg ac Orlovsky ar draws India gan fyw yn Kolkata (Calcutta) a'r ddinas sanctaidd Benares er awdurdodau India ceisio eu taflu o'r wlad.

Daeth Ginsburg yn Fwdhydd ac astudiodd crefyddau dwyreiniol yn frwd. Er yr holl sylw a llwyddiant bu'n byw mewn fflatiau digon syml yn East Village, Efrog Newydd ac yn prynu ei ddillad o siopau ail-law.[8]

Bu'n rhan o ddegawdau o brotestiadau gwleidyddol di-drais yn erbyn rhyfel Fietnam a nifer fawr o achosion eraill. Mae ei gerdd September on Jessore Road, yn tynnu sylw i ddioddefaint pobl ffoaduriad Bangladeshi. Yn ôl y beirniad llenyddol Helen Vendler mae hyn yn nodweddiadol o ymroddiad Ginsberg i wrthwynebu gwleidyddiaeth imperialaidd a gormesi'r difreintiedig.

Er i'w waith cael ei wahardd a bu'n ran o'r is-ddiwylliant a heriodd syniadau poblogaidd y cyfnod erbyn diwedd ei oes bu Allen Ginsberg un o lenorion enwocaf yr iaith Saesneg. Roedd newyddion ei farwolaeth ym 1997 yn newyddion ymhlith prif penawdau yr newyddion a thalwyd teyrngedau llu iddo.

 
Dylanwad crefydd ddwyreiniol ar boster noson Allen Ginsberg gyda phrif grwpiau seicedelig, 1967

Llyfryddiaeth

golygu
  • Howl and Other Poems (1956)
  • Kaddish and Other Poems (1961)
  • Empty Mirror: Early Poems (1961)
  • Reality Sandwiches (1963)
  • The Yage Letters (1963) – gyda William S. Burroughs
  • Planet News (1968)
  • First Blues: Rags, Ballads & Harmonium Songs 1971 - 1974 (1975),
  • The Gates of Wrath: Rhymed Poems 1948–1951 (1972)
  • The Fall of America: Poems of These States (1973)
  • Iron Horse (1972)
  • Sad Dust Glories: poems during work summer in woods (1975)
  • Mind Breaths (1978)
  • Plutonian Ode: Poems 1977–1980 (1981)
  • Collected Poems 1947–1980 (1984)
  • White Shroud Poems: 1980–1985 (1986)
  • Cosmopolitan Greetings Poems: 1986–1993 (1994)
  • Howl Annotated (1995)
  • Illuminated Poems (1996)
  • Selected Poems: 1947–1995 (1996)
  • Death and Fame: Poems 1993–1997 (1999)
  • Deliberate Prose 1952–1995 (2000)
  • Howl & Other Poems 50th Anniversary Edition (2006)
  • The Book of Martyrdom and Artifice: First Journals and Poems 1937-1952
  • The Selected Letters of Allen Ginsberg and Gary Snyder
  • I Greet You At The Beginning of a Great Career: The Selected Correspondence of Lawrence Ferlinghetti and Allen Ginsberg, 1955-1997

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Ginsberg, Allen (1926-1997)". glbtq.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-13. Cyrchwyd 9 Awst 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Ginsberg, Allen (2000), Deliberate Prose: Selected Essays 1952–1995. Rhagair gan Edward Sanders (Efrog Newydd: Harper Collins), tt. xx–xxi.
  3. de Grazia, Edward. (1992) Girls Lean Back Everywhere: The Law of Obscenity and the Assault on Genius (Efrog Newydd: Random House), tt. 330–31.
  4. About Allen Ginsberg. pbs.org. 29 Rhagfyr 2002
  5. Pacernick, Gary. "Allen Ginsberg: An interview by Gary Pacernick" (10 Chwefror 1996), The American Poetry Review, Jul/Aug 1997. "Yeah, I am a Jewish poet. I'm Jewish."
  6. Allen Ginsberg." Allen Ginsberg Biography. Poetry Foundation, 2014. Web. 6 Tachwedd 2014.
  7. Miles, Barry (2001), Ginsberg: A Biography (London: Virgin Publishing)
  8. Ginsberg, Allen (3 Ebrill 2015). "The Vomit of a Mad Tyger". Lion's Roar. Adalwyd 3 Ebrill 2015.