Kamehameha I
Sefydlwr Teyrnas Hawaii oedd Kamehameha I, a elwir hefyd yn Kamehameha Fawr (tua 1736 – 8 Mai neu 14 Mai 1819). Goresgynodd Ynysoedd Hawaii ar ddiwedd y 18g a sefydlodd Deyrnas Hawaiʻi yn ffurfiol yn 1810. Trwy ddilyn polisi o ymgynghreirio â grymoedd gwladychol mawr y Cefnfor Tawel, llwyddodd Kamehameha i gadw annibyniaeth Hawaiʻi yn ystod ei deyrnasiad. Cofir Kamehameha am y Mamalahoe Kanawai, "Deddf y Padl Deilliog", sy'n amddiffyn hawliau sifiliaid adeg rhyfel. Enw llawn Kamehameha yn yr Hawaieg yw Kalani Paiʻea Wohi o Kaleikini Kealiʻikui Kamehameha o ʻIolani i Kaiwikapu kaui Ka Liholiho Kūnuiākea. Cafodd ei olynu gan y brenin Kamehameha II, a deyrnasodd o 1819 hyd 1824.
Kamehameha I | |
---|---|
Ganwyd | Paiʻea 18 g Kohala Historical Sites State Monument |
Bu farw | Mai 1819 Kamakahonu |
Man preswyl | Kamakahonu |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Hawai'i |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, person milwrol |
Swydd | ymerawdwr |
Tad | Keōua |
Mam | Kekuiapoiwa II |
Priod | Kaʻahumanu, Kekāuluohi, Kalola-a-Kumukoa, Kalākua Kaheiheimālie, Kānekapōlei, Namahana Piia, Peleuli, Wahinepio, Keōpūolani |
Plant | Kamāmalu, Kamehameha III, Kamehameha II, Pauli Kaōleiokū, Nāhienaena, Kīnaʻu, Kahiwi Kanekapolei, Kiliwehi |
Llinach | House of Kamehameha |
Eginyn erthygl sydd uchod am frenhiniaeth neu aelod o deulu brenhinol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.